PYSGOTA

Mae llyn gwych yng nghanol Parc Bryn Bach sy'n rhoi mynediad rhwydd, dwr clir a stoc amrywiol o bysgod cwrs sy'n cynnwys carp, penhwyaid, rhufellod a  draenogiaid, sy'n sicrhau fod y parc yn gyrchfan boblogaidd i lawer o bysgotwyr.

Gellir prynu tocynnau dydd o'r Ganolfan Ymwelwyr ar y prisiau dilynol:

Iau    £1.60 (gwialen ychwanegol £0.75)
Hyn    £3.10 (gwialen ychwanegol £1.00)

Tocyn Tymor Iau  £15.00 (dwy wialen)
Tocyn Tymor Hyn  £30.00 (dwy wialen)
 
Mae Parc Bryn Bach yn dirwedd gwledig llwyddiannus a gofynnwn i chi gydymffurfio â'r rheolau dilynol er mwyn ei gynnal.

• Mae angen trwydded gwialen gyfredol Asiantaeth yr Amgylchedd i bysgota yn y llyn; mae'r rhain ar gael drwy eich Swyddfa Bost leol neu wefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'r drwydded ar gael i bobl 12 oed a throsodd. Mae angen trwydded ychwanegol os ydych yn pysgota gyda mwy na dwy wialen.
• Gwaherddir defnyddio hudwyr ar y llyn a chaiff unrhyw un a ganfyddir yn eu defnyddio eu gwahardd o'r parc
• Dim ond gan aelodau syndicad y caniateir pysgota nos; holwch y Ganolfan Ymwelwyr am wybodaeth
• Gofynnir i chi sicrhau y gwaredir â'r holl sbwriel yn gyfrifol yn y biniau a ddarperir.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01495 711816