Mae dysgu drwy weithgaredd awyr agored yn ffordd wych o ddatblygu ystod eang o sgiliau a hyfforddiant. Cynlluniwyd ein Rhaglen Addysgol i gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol a gellir ei deilwra ar gyfer gwahanol bynciau ar wahanol lefel cyfnod allweddol.
Hyfforddiant Caiac yn ystod Tymor Ysgol
Cwrs poblogaidd a llwyddiannus iawn sy'n galluogi myfyrwyr i gael eu hyfforddi a'u hasesu’n defnyddio Gwobrau Seren Undeb Canwio Prydain. Mae'r cymwysterau hyn yn cyfrif tuag at waith cwrs ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol a gellir eu teilwra i integreiddio i amserlenni ysgol.
Cynllun Gwobr Dug Caeredin
Gall ein staff gynorthwyo unrhyw ysgol neu grwp ieuenctid i gwblhau eu Gwobrau Efydd, Arian ac Aur drwy ddarparu arweiniad a hyfforddiant arbenigol. Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o alldeithiau dan arweiniad ein tîm cymwys o hyfforddwyr y medrir eu teilwra i weddu i bob oedran a gallu.
Cwricwlwm Arall
Darparwn amrediad o gymwysterau Corff Llywodraethu Cenedlaethol sy'n cynnwys cerdded bryniau, canwio/caiacio/beicio mynydd a dringo sy'n addas ar gyfer pobl ifanc, sy'n cefnogi ein Rhaglen Gweithgaredd Antur a ellir ei ddefnyddio fel rhan o'r cwricwlwm arall.
BTEC Lefel 2 Tystysgrif Estynedig mewn Chwaraeon (Gweithgareddau Antur)
Mae hwn yn gwrs cyfwerth â 2 TGAU sy'n cynnwys cyflwyniad i weithgareddau antur lle bydd y myfyriwr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau antur. Mae hefyd elfen theori y bydd angen ei chwblhau i sicrhau dealltwriaeth o'r holl astudiaethau cysylltiedig.
Bydd y cwrs yma'n rhoi sylfaen ardderchog i fynd ymlaen i astudio Diploma Lefel 3 mewn Chwaraeon.
BTEC Lefel 3 Diploma mewn Chwaraeon (Gweithgareddau Antur)
Mae hwn yn gwrs cyfwerth â Lefel A sy'n rhoi sylfaen a pharatoad ardderchog ar gyfer cyflogaeth mewn gweithgareddau awyr agored neu gyrsiau addysgol awyr agored.
Nod y cwrs yw datblygu hyfforddwyr gweithgareddau antur medrus drwy gynnig yr holl brofiad, sgiliau a chymwysterau corff llywodraethu cenedlaethol angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys:-
Gwobrau Seren DU / CC
Gwobrau Hyfforddiant DU / CVCV
Gwobr Mordwyo Cenedlaethol
Dyfarniad Mur Dringo
Cymorth Cyntaf
Yn ystod y cwrs dwy flynedd bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dwy alldaith, un yn Ewrop a'r llall yn y Deyrnas Unedig. Mae holl Wobrau Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn dibynnu ar allu ac ymrwymiad personol myfyrwyr.
Ysgol Goedwig
Mae'r gweithgaredd lefel cynradd ardderchog hwn yn cynnwys sgiliau bywyd, rhifedd a llythrennedd sylfaenol, gweithio tîm a sgiliau cyfathrebu sydd oll yn seiliedig o amgylch astudio o fewn yr amgylchedd naturiol.
Cysylltwch â ni i gael gwybodeath bellach ar yr Ysgol Goedwig.
Gwobr Mordwyo Cenedlaethol NNAS
Mae'r dyfarniad yma'n ddelfrydol ar gyfer grwpiau ieuenctid, ysgolion a'r unigolion hynny sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored a symud ymlaen i gymwysterau uwch.
Mae gan y Wobr dair lefel: Efydd, Arian ac Aur.
Mae'r holl gyrsiau NNAS yn cynnwys cyngor a gwybodaeth am y materion diogelwch a mynediad perthnasol ar gyfer cerdded yng nghefn gwlad. Yn ychwanegol, mae dealltwriaeth o faterion cadwraeth ac amgylcheddol perthnasol ac ymwybyddiaeth ar ein heffaith arno yn ffurfio rhan o bob cwrs.
Os hoffech fwy o wybodaeth ar unrhyw un o'r cyrsiau hyn, neu os hoffech archebu, cysylltwch â ni ar 01495 711816




