Mae gan Barc Bryn Bach safle carafanau 40 llain a safle gwersylla mewn 340 erw o dir parc hyfryd ar lan y llyn, gan roi golygfeydd gwledig gwych a'r bywyd gwyllt sy'n byw yma.
Mae gan y safle raddiad 3 Seren Croeso Cymru ac mae o fewn ychydig fetrau i Ganolfan Ymwelwyr y parc sydd ar agor rhwng 8.30am a 7pm yn ystod yr haf. Mae bar trwyddedig a bwyty yn y ganolfan sy'n gwerthu amrywiaeth o brydau poeth ac oer, gyda bwydlen gynhwysfawr i blant, siop gofroddion a chiosg gwybodaeth ymwelwyr.
Mae gan y safle 30 pwynt bachu trydan, cawodydd, cyfleusterau golchfa (peiriant golchi, peiriant sychu a haearn smwddio), toiledau, mannau eillio, pwynt gwaredu cemegol, ffôn cyhoeddus a phwynt dwr.
Prisiau Arhosiad Byr
Carafan y noson £14.50
Pabell y noson £7.70
Rali carafanau £10.85
Prisiau Arhosiad Hir - Carafannau'n unig
Haf Ebrill i Hydref - Dwy wythnos £179.55
Gaeaf Hydref i Ebrill - Dwy wythnos £147.05
Os hoffech fwy o wybodaeth a holi os oes lleoedd ar gael, neu os hoffech archebu, cysylltwch â ni ar 01495 711816.




