Mae gan Barc Bryn Bach 340 erw o dir glas a choetir hyfryd gyda llyn 36 erw gwych yn ei ganol. Mae'n lleoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau sy'n gyfle i ymwelwyr o bob oed gymryd rhan mewn gweithgareddau antur, hamddena ac ymlacio.
Ymlacio
Mae llwybr tarmac 1.3 milltir o amgylch y llyn, sy'n berffaith ar gyfer cerdded, loncian neu feicio gan edmygu harddwch a thawelwch y lleoliad a'r bywyd gwyllt sy'n byw yma. Os ydych yn hoffi beicio ond heb fod â'ch beic eich hunan, peidiwch â phoeni - gallwch logi un o'n siop ar y safle! Os yw'n well gennych eistedd yn ôl ac edmygu'r olygfa hardd, mae bwyd hwyaid ar werth yn y Ganolfan Ymwelwyr os hoffech fwydo rhai o'n preswylwyr pluog!
Antur
Beth bynnag yw'ch oedran neu allu, mae gennym rywbeth anturus i bawb roi cynnig arno! Drws nesaf i'r ganolfan ymwelwyr, mae gan ein hardal chwarae plant amrywiaeth o offer hwyliog i'w cadw’n brysur ac yn ddiddan yn ystod eich ymweliad. Ar gyfer anturiaethau adrenalin, mae gennym ddewis llawn o weithgareddau yn amrywio o gaiacio i ogofa a pharagleidio tandem dan oruchwyliaeth ein hyfforddwyr medrus a phrofiadol. Darparwn ar gyfer dechreuwyr a hefyd unigolion mwy profiadol.
Hamdden
Mae ein cyfleusterau'n cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer nifer o hobïau p'un ai a hoffech fanteisio ar ein cwrs golff 9 twll gwych, perffeithio eich golff ar ein maes ymarfer neu ddatblygu eich sgiliau BMX a beicio mynydd ar ein llwybr safon cenedlaethol. Mae amrywiaeth o fannau ymarferol o amgylch llwybr glanyllyn os ydych eisiau cynyddu eich iechyd a ffitrwydd. Mae Parc Bryn Bach hefyd yn cynnal amrywiaeth o glybiau ar y safle, yn cynnwys:
- Clwb Cychod Model
- Clwb Hedfan Model
- Grwp Gweithgaredd Cwn Newfoundland Cymru
- Clwb Beicio Mynydd
- Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach




