Mae Cyngor Blaenau Gwent yn rhoi cryn ymrwymiad ac adnoddau i mewn i ddatblygiad a hyfforddiant eu staff, i fwyhau potensial pob unigolyn a gwella’n barhaus ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu cyflwyno i drigolion Blaenau Gwent. Rydym yn llawn cydnabod y pwysigrwydd o ddatblygu’n barhaus ac ysgogi ein pobl ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod datblygiad staff yn factor allweddol yn ein llwyddiant.
Mae rhai enghreifftiau o’r gweithgareddau a ddarperir yn cael eu disgrifio isod:
ANWYTHO
Darperir gweithwyr newydd gyda chyflwyniad ar lefel adrannol a chorfforaethol i alluogi’r unigolyn i deimlo mor gyfforddus â phosibl yn eu swyddogaeth newydd.
FFRAMWEITHIAU GALLU
Mae’r Cyngor wedi sefydlu fframweithiau gallu ar gyfer ei holl staff, i gefnogi datblygiad parhaus o’n pobl a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
Mae’r galluoedd o fewn y fframweithiau yn hanu’n sylweddol o Strategaeth Pobl y Cyngor, Arolwg Barn Staff, ac ymgynghoriad gydag uwch reolwyr, ac maent wedi eu canolbwyntio ar sicrhau bod gyda ni’r gallu i gyflwyno amcanion strategol y Cyngor a gwneud Blaenau Gwent yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.
RHAGLEN DATBLYGIAD PROFFESIYNOL PARHAUS
Mae’r rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus yn rhaglen gorgyffwrdd o ddatblygiad sydd yn effeithio ar yr holl staff. Darperir ystod eang o weithgareddau, gan sicrhau bod y staff wedi eu hyfforddi a’u diweddaru yn yr ardaloedd mae angen iddynt fod er sicrhau'r gwasanaeth gorau posibl. Mae nifer o’r gweithgareddau yma wedi eu cysylltu i fframwaith gallu’r Cyngor a pholisïau corfforaethol.
HYFFORDDIANT WEDI YMUNO
Mae’r Cyngor yn noddi staff i ymgymryd gyda rhaglenni allanol drwy golegau a phrifysgolion lleol. Mae gan bob adran gyfrifoldeb ar gyfer dyraniad ei gyllideb yn yr ardal hon i’r rhaglenni bydd yn cynnig y gwerth mwyaf i’r gwasanaethau maent yn eu cynnig.
CYRSIAU BYR / SEMINARAU
Mae pob adran yn gyfrifol am sicrhau bod staff yn cael eu diweddaru yn eu maes penodol o arbenigedd. Gall hyn olygu mynychu cyfarfodydd rhwydweithio o fewn a thu allan i’r mudiad, a mynychu cynadleddau / seminarau lle bo’n briodol.
E-DDYSGU
Mae’r Cyngor yn perthyn i rwydwaith dysgu electronig sydd yn ymestyn dros y Deyrnas Unedig, sydd yn galluogi staff i gael mynediad i ystod o gyrsiau o’u cyfrifiaduron. Mae’r Cyngor wedi datblygu ei ddeunydd dysgu electronig i alluogi staff i ymgymryd gyda hyfforddiant ar adeg a lleoliad o’u dewis.
CYNLLUN ADOLYGIAD PERFFORMIAD
Mae cynllun adolygiad perfformiad y Cyngor yn golygu bod yr holl aelodau o staff yn derbyn adolygiad perfformiad o leiaf unwaith y flwyddyn, sydd yn cytuno amcanion unigol ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Wedi ei gynnwys o fewn yr adolygiad mae’r cytundeb o Ddatblygiad Cynllun Personol, sydd yn adnabod y math o weithgareddau mae’r gweithiwr a’i reolwr ill dau yn cytuno bydd yn gwella eu sgiliau a’u potensial.
BUDDSODDWYR MEWN POBL
Yn mis Ionawr 2007 clywodd y Cyngor, yn dilyn asesiad diweddar, iddo gael ei achredu gyda’r Dyfarniad Buddsoddwyr Mewn Pobl ar Lefel Gorfforaethol, yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i wneud hyn o dan y safon newydd diwygiedig. Gwelwn hwn yn gadarnhad o sut ydym yn cyflogi, hyfforddi, ac yn cadw ein pobl, i helpu i gyflwyno’r gwasanethau gorau posib i drigolion Blaenau Gwent. Mae’r Awdurdod yn ymroddedig i gynnal a gwella'r arferion da a arweiniodd i dderbyn y wobr yma.