Ffurflen Gais Ar-lein
Medrwch wneud cais am unrhyw un o’r swyddi ar ein gwefan drwy ddefnyddio’r ffurflen gais, a gaiff wedyn ei hanfon yn uniongyrchol at yr Adran Adnoddau Dynol. Dewiswch ‘Gwneud cais yn awr’ ar waelod yr hysbyseb a gallwch weld y ffurflen gais.
Mae’n rhwydd llenwi’r ffurflen. Os dymunwch adael y ffurflen gais a dychwelyd ati eto, neu os dymunwch ei chadw a dal i weithio arni, medrwch ddefnyddio’r botwm ‘Cadw a Dychwelyd (Save & Return) sydd ar gael o’r ail dudalen ymlaen. Mae hyn yn rhoi cyfeirnod unigryw a anfonir atoch drwy e-bost fel y medrwch gael mynediad i’ch cais a’i orffen yn nes ymlaen - neu medrwch ddychwelyd yn syth at eich cais.
I gael cyngor ac arweiniad ar yr holl broses gais, darllenwch adran ‘Canllawiau i Ymgeiswyr’ yn nogfen Insight a chyfeirio at y Fframwaith Cymhwyster.




