Fforwm Mynediad i Bawb (gynt y Fforwm Anabledd)
Bu Blaenau Gwent yn trin materion anabledd ers 1995 pan ddaeth Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 i rym.
Yn gyntaf, cyfarfu swyddogion Cyngor Sir Gwent (Gwasanaethau Cymdeithasol Gogledd Gwent) fel yr oedd bryd hynny a swyddogion Cyngor Bwrdeisdref Blaenau Gwent i drafod goblygiadau'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a'r ffordd y byddai'n effeithio ar yr awdurdod a phobl anabl Blaenau Gwent.
Pan ad-drefnwyd llywodraeth leol ar 1 Ebrill 1996, aeth Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent ati i sefydlu'n ffurfiol Grwp Mynediad Anabledd oedd yn cynnwys swyddogion perthnasol o bob adran, dan gadeiryddiaeth yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynnydd
I ddechrau dyrannodd yr awdurdod gyllideb o £50,000 y flwyddyn i wella mynediad i adeiladau'r cyngor - ac yn dilyn pwysau gan y Rhwydwaith Anabledd, cynyddwyd y gyllideb i £105,000 y flwyddyn o Ebrill 2004 i gyflymu'r broses cydymffurfiaeth.
Roedd llawer iawn o ffocws y Grwp Mynediad yn y dyddiau cynnar ar wella mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn - bu newid sylweddol yn y ffocws dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gydag ymwybyddiaeth mai dim ond cyfran fach o bobl anabl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn a bod llawer o anableddau yn gudd e.e. amhariadau synhwyraidd ac ar y golwg ac ati.
Gwnaed llawer o waith da ar draws yr Awdurdod yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf:-
- Enillodd yr Awdurdod achrediad symbol anabledd Dau Dic ar 12 Mehefin 2006 i arddangos ei ymrwymiad i gyhoedd anabl Blaenau Gwent.
- Sefydlodd Gwasanaethau Hamdden Fforwm Chwaraeon Anabledd i drefnu digwyddiadau ar draws y Fwrdeisdref ar gyfer clybiau.
- Cynhaliwyd archwiliadau mynediad trylwyr ar bob adeilad o fewn y Fwrdeisdref Siriol yn defnyddio pedwar prif faen prawf - anabledd cerdded, pob amhariad synhwyraidd, defnyddwyr cadeiriau olwyn, anableddau iechyd meddwl. Anfonwyd adroddiadau yn ddilynol at adrannau cleientiaid perthnasol. Mae'r uned Rheoli Asedau yn cynllunio, nodi a chaffael addasiadau ar gyfer adeiladau gyda mynediad i'r cyhoedd i gynyddu cymhwyster ar gyfer pob gyda phob math o amhariad. Hyd yma cafodd cyfleusterau eu gwella mewn 16 adeilad ar gost o £300,000 ac mae gwaith mewn pedwar adeilad arall ar y gweill neu bydd yn mynd rhagddo yn y dyfodol agos.
- Caiff pob cais cynllunio ei ddilysu yn yr Adran Gwasanaethau Technegol i sicrhau fod Datganiadau Mynediad, yn cynnwys gofynion Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cynhwysiant wedi eu hymwreiddio yn y broses gynllunio.
- Ym mis Mai 2007 ailenwyd y Fforwm Anabledd yn Fforwm Mynediad i Bawb a llwyddodd i gael mwy o ymwneud gydag aelodau anabl o'r cyhoedd, eu gofalwyr ac aelodau anabl o'r staff. Cadeirir y Fforwm ar y cyd gan Andrea Prosser o Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent a Claire Sullivan o Fwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent.
Mae Cylch Gorchwyl y Fforwm Mynediad i Bawb yn adlewyrchu Dyletswydd Gyffredinol y Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd 2005.
Wrth weithredu eu swyddogaethau, mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus roi ystyriaeth ddyladwy i:
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl a grwpiau anabl ac eraill.
- Dileu gwahaniaethu sy'n anghyfreithlon dan y Ddeddf.
- Dileu aflonyddu ar bobl anabl oherwydd eu hanableddau.
- Hyrwyddo agweddau cadarnhaol at bobl anabl
- Annog cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus.
- Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl anabl, hyd yn oed lle mae hyn yn golygu trin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl eraill.
Datblygodd y Fforwm yn gyflym mewn misoedd diweddar gyda nifer yr aelodau wedi cynyddu i ymhell dros 50, ac aelodau mwy amrywiol yn cymryd rhan.
Mae gan y Fforwm aelodaeth amrywiol sy'n annog datblygu gweithio partneriaeth. Aelodau presennol y grwp hyd yma yw:
- Cynor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
- Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent
- GAVO
- Croesffyrdd
- Clwb Coes Blaenau Gwent
- Cyngor Blaenau Gwent i'r Anabl
- Clwb Byddar Blaenau Gwent
- Cyngor Ar Bopeth
- Linc Cymru
- Anabledd Cymru
- Coleg Gwent
- Canolfan Byd Gwaith
- Cymdeithas Brydeinig y Byddar
- Pathways
- Workstep
- Staff ac aelodau anabl o'r cyhoedd.
Mae'r Fforwm yn awr yn cyfarfod bob chwe wythnos ac mae ganddo is-grwp Digwyddiadau sy'n trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth a thrafod materion anabledd. Cynhaliwyd y digwyddiadau dilynol hyd yma:-
- Seminar Ymgyfraniad Mynediad i Bawb - Canolfan Hamdden Abertyleri.
- Codi ymwybyddiaeth o amhariad ar y golwg ac arddangosiad o dechnoleg gymhorthol.
- Arwyddion o'r Amserau - digwyddiad ymwybyddiaeth o fyddardod a thechnoleg gymhorthol.
- Cymorth gyda digwyddiadau Fforwm 50+ gweithgareddau ar ôl ymddeol ac ati.
Rydym hefyd wedi sefydlu Fforwm i'r Byddar ar gyfer cymuned fyddar Blaenau Gwent.
- Mae'r Awdurdod wedi ysgrifennu Cynllun Cydraddoldeb Anabledd fel rhan o'r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd. Mae'n ddatganiad o fwriad gan yr Awdurdod i gynnwys staff anabl, y cyhoedd a gofalwyr yn y ffordd y caiff yr Awdurdod ei redeg. Mae ganddo gyfres o gynlluniau gweithredu a gynlluniwyd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl anabl ac a seiliwyd ar wybodaeth a gafwyd o'r seminar a nodir islaw.
- Ysgrifennwyd adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed ym mlwyddyn gyntaf y cynllun. Cysylltwch â'r Swyddog Cydraddoldeb i gael copi yn y fformat a ddymunwch.
- Ym mis Chwefror 2007 cynhaliwyd seminar Mynediad i Bawb mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent yng Nghanolfan Iechyd Abertyleri. Bu mwy na 80 o bobl yn bresennol. Cylch gorchwyl penodol y seminar oedd ymgysylltiad ac ymgyfraniad aelodau anabl o'r cyhoedd, eu gofalwyr ac aelodau anabl o staff. Bu'r Seminar yn llwyddiannus iawn gyda'r Awdurdod a'r Byrddau Iechyd Lleol yn gweithredu ar nifer o faterion a godwyd.
Mae'r Fforwm yn croesawu pobl anabl, gofalwyr, staff a chynrychiolwyr o sefydliadau i'r anabl i ddod a thrafod materion o gonsyrn. Mae'r Fforwm wedyn yn bwydo i mewn i'r Cyngor i geisio trin unrhyw fater a godwyd.




