Pori yn ôl Gwasanaeth:
Tai - altradau gan denantiaid
Cyn i chi wneud unrhyw welliannau neu addasiadau i’ch mangre rhaid i chi ofyn a chael caniatâd yn ysgrifenedig oddi wrth y:
Prif Swyddog Technegol, Gwasanaethau Tai, Anvil Court, Stryd yr Eglwys, Abertyleri.
Bydd Swyddog Technegol yn ymgymryd ag arolygiad lle bo angen.
Rhaid cael caniatâd pan eich bod yn bwriadu:
• Mewnosod systemau i wresogi eich cartref
• Newid y cyflenwad o ddwr, nwy, trydan
• Newid cyfleusterau glanweithdra (e.e. toiledau, sinciau)
• Newid strwythur eich cartref (e.e. muriau mewnol)
• Mewnosod cegin newydd
• Adeiladu sied
• Codi ffens
Nid yw’r rhestr hon yn un trwyadl. Rhaid i chi ofyn am ganiatâd cyn gwneud unrhyw addasiadau / welliannau y tu fewn i’ch mangre neu i’r tu allan.
Hysbyswch y Cyngor os ydych yn bwriadu ymgymryd â gwaith ar furiau, fframiau ffenestri neu ddrysau i alluogi gwifrio i mewn i’ch cartref ar gyfer teleffonau neu deledu ayb.
Manylion Cyswllt
Housing Hotline -
Tel No: (01495) 354600





