Pob blwyddyn, mae Adran Iechyd yr Amgylchedd yn delio gyda thua 6000 o geisiadau am wasanaethau sydd yn ymwneud ag ystod eang o destunau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i Afiechydon Swnotig. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau achlysurol ac arolygiadau o fathau gwahanol o fangrefeydd a gweithredu deddfwriaeth sydd yn ymwneud â thipio yn anghyfreithlon a baeddu gan gwn.
Yn ogystal â gweithredu deddfwriaeth rydym hefyd yn cynnig cyngor a hyfforddiant i holl aelodau’r gymuned.
Mae nifer o feysydd Iechyd yr Amgylchedd yn adnabyddus iawn, yn enwedig wedi cyfres y BBC, ‘A Life of Grime’. Fodd bynnag, mae’r tîm yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau na fyddech efallai wedi meddwl amdanynt.
Os hoffech mwy o wybodaeth am waith Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, cliciwch os gwelwch yn dda ar y llaw dde.





