Cynllun Prydles Breifat

Mae Gosodiadau Les Newydd yn gynllun peilot a ariannir drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r nod o gynyddu maint a safon y tai sydd ar gael i oedolion sengl agored i niwed.  Gan weithio’n agos gydag asiantaethau targed, mae Gosodiadau Les Newydd yn anelu i wneud llety rhent preifat yn fwy hygyrch i oedolion agored i niwed sydd dan fygythiad dod yn ddigartref neu’n ddigartref eisoes.

Bydd y cynllun, a gaiff ei reoli gan Gymdeithas Tai United Welsh a Gofal a Chymorth Gwalia mewn partneriaeth gyda Chynghorau Caerffili a Blaenau Gwent, yn cynnig ystod sylweddol o wasanaethau cymorth a manteision i’r ymgeisydd ac i’r landlord preifat, gyda’r nod o wneud y denantiaeth yn llwyddiannus i’r naill a’r llall.

Mae’r cynllun yn cynnig les hyd at 3 blynedd i landlordiaid gyda gwarant o incwm rhent, a dalir yn uniongyrchol drwy gydol y cyfnod hyd yn oed os oes adegau pan nad oes neb yn byw yn yr annedd.  Yn yr un modd, mae’r cynllun yn darparu pecyn rheolaeth eiddo llawn gan United Welsh gan sicrhau y cedwir yr annedd mewn cyflwr da a’i ddychwelyd i’w gyflwr gwreiddiol.  Bydd y tîm yn United Welsh hefyd yn sicrhau y byddir yn parhau i roi cymorth i denantiaid, gan eu helpu i sicrhau mwy o annibyniaeth a chadw tenantiaeth lwyddiannus.

Manylion Cyswllt

Mynediad Tai

Ffôn: 01495 354600
Ffacs: 01495 355834