Ydych chi’n ddigartref yn ‘fwriadol’ neu’n anfwriadol’?
Medrir eich ystyried yn ‘fwriadol ddigartref’ os teimlir yr achoswyd eich digartrefedd gan rywbeth a wnaethoch chi’n fwriadol neu i chi fethu gwneud rhywbeth sydd wedi’ch achosi i golli eich cartref y medrech fod yn rhesymol wedi aros ynddo.
Enghreifftiau o fod yn ‘fwriadol ddigartref’ yw:
- Cewch eich troi o’ch cartref am ôl-ddyledion rhent neu ailfeddiannu morgais lle nad oes unrhyw reswm da dros beidio talu.
- Cewch eich troi o’ch cartref neu ofyn i chi adael am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Eich bod yn rhoi’r gorau yn wirfoddol i’ch llety.
- Eich bod yn gwerthu eich cartref heb ganfod llety arall.
- Eich bod yn rhoi gorau i gyflogaeth oedd yn cynnwys llety.
Os ydych mewn ‘Angen Blaenoriaeth’ yna efallai y bydd gennych hawl i gyfnod mewn llety dros dro pan fyddwch yn edrych am lety arall.




