Mae ein safle yn cynnwys llawer o wybodaeth a gall fod yn anodd ar adegau i wybod lle mae cychwyn. Rydym wedi ceisio trefnu’r wybodaeth ar ein safle fel y gallwch chi ganfod yr hyn i chi ei angen cyn gynted â phosibl.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ganfod y wybodaeth y mae gyda chi ddiddordeb ynddo:
Dewislenni:
Defnyddiwch y dewislenni ar dop y tudalen ac ar yr ochr chwith i edrych am wybodaeth yn nol pwnc.
Linciau cyflym:
Mae yna nifer o linciau defnyddiol sydd yn cysylltu’n uniongyrchol i ardaloedd allweddol o’r wefan, gan gynnwys yr hafan, rhestr o beth sy’n newydd, a’r adran swyddi.
A i Y:
Mae’r A i Y yn rhestr o bynciau a gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan y Cyngor, yn nhrefn y wyddor. Edrychwch o dan ‘A’ er enghraifft am Ailgylchu.
Chwilio:
Mae’r cyfleuster chwilio yn chwilio’r holl safle i chi gan ddefnyddio’r geiriau allweddol i chi wedi eu teipio i mewn i’r blwch chwilio, sydd i’w ganfod ar yr ochr chwith ar dop y dudalen.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster yn canfod y wybodaeth i chi ei angen, yna cysylltwch gyda ni a gwnawn ein gorau i helpu. info@blaenau-gwent.gov.uk
Gallwch chi lywio drwy’r safle drwy ddefnyddio'r linciau ar y brif ddewislen o bob tudalen i symud trwy adrannau. Mae’r holl linciau o fewn pob adran yn cael eu rhestri ar ochr chwith y dudalen. Gallwch chi fynd nôl i’r hafan drwy ddefnyddio’r linc ‘Hafan’ sydd ar ben y brif ddewislen ar bob tudalen.
Gallwch chi ‘nodi’ tudalennau fel y gallwch ei ganfod yn rhwydd ar adeg arall.
I wneud hyn o fewn Microsoft Internet Explorer dewiswch ‘Favourites’ o’r ddewislen ar eich sgrin, ac yna ‘Add to Favourites’.
I wneud hyn yn Netscape dewiswch ‘Bookmarks’ ac yna ‘Add Bookmarks’.
Efallai y bydd porwyr eraill yn gofyn gweithdrefn rhywfaint yn wahanol - defnyddiwch fotwm ‘Help’ y porwr i ganfod rhagor o wybodaeth.
Atodion PDF
Mae peth gwybodaeth ar y safle yma ar gael ar ffurf dogfennau PDF (Portable Document Files). I weld y ffeiliau yma bydda angen Adobe Acrobat Reader arnoch chi. Mae hwn yn feddalwedd i chi yn gallu ei lawr lwytho yn rhad ac am ddim i’ch cyfrifiadur o Adobe.
Mae teclynnau a help ar gael i gael mynediad i’r ffeiliau yma o: http://access.adobe.com.
Dogfennau Word
Os nad oes gyda chi Microsoft Word ar eich cyfrifiadur gallwch chi ddefnyddio Word Document Viewer i’ch galluogi chi i weld dogfennau Word.
Ffeiliau Excel
Os nad oes gyda chi Microsoft Excel ar eich cyfrifiadur gallwch ddefnyddio Excel Document Viewer i’ch galluogi chi i weld dogfennau Excel.
Rydym o bryd i’w gilydd yn defnyddio mathau eraill o atodiadau ar y safle. Gallwch ddarganfod rhagor am y rhain ar ein tudalen atodiadau. Os ydych chi yn cael anhawster yn cael mynediad i unrhyw un o’n dogfennau, cysylltwch gyda’r gwasanaeth perthnasol neu’r tîm gwe ar info@blaenau-gwent.gov.uk am fath gwahanol.
Adborth
Os oes gyda chi unrhyw sylwadau neu ymholiadau am y safle hwn, neu yn canfod rhywbeth i chi yn credu sydd yn gallu cael ei wella neu na sydd yn gweithio’n iawn, e-bostiwch y tîm gwe ar info@blaenau-gwent.gov.uk.
Mae ein tudalen Cysylltwch â Ni yn rhoi manylion pellach am gysylltu gyda’r Cyngor trwy’r post, teleffon, e-bost a ffacs, a hefyd linciau i fanylion cyswllt ein prif wasanaethau. Byddwch yn canfod linc i’r tudalen Cysylltwch â Ni ar ben y brif ddewislen ar bob tudalen.