Awgrymiadau, canmoliaeth, cwynion a chyfarchion

A OES GYDA CHI AWGRYM, GANMOLIAETH NEU GWYN AM EIN GWASANAETH?

Mae Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn anelu i ddarparu'r safon uchaf o wasanaeth. Rydym yn ymroddedig i ymwneud pobl sydd yn defnyddio ein gwasanaethau mewn penderfyniadau am yr hyn sydd orau iddynt, a darparu bodlonrwydd lle bynnag bo hynny’n bosibl.

Polisi'r Adran yw cynnig cyfle i chi fel defnyddiwr gwasanaeth i ymwneud gyda’r ffyrdd y mae eich anghenion yn cael eu cwrdd. Byddwch yn derbyn rhesymau os nad yw’n bosibl i roi‘r hyn i chi am. Dylech chi wastad gael eich trin â pharch a chwrteisi.

Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau fel pobl sydd yn defnyddio ein gwasanaethau. Ysgrifennwch neu siaradwch gydag aelod o staff os ydych am:

  • wneud awgrym i’r modd y gellir gwella ein gwasanaeth;
  • mynegi eich gwerthfawrogiad;
  • wneud cwyn am eich bod yn anfodlon.

AWGRYMIADAU A CHANMOLIAETH

Os ydych yn cysylltu gyda ni, byddwn yn pasio eich sylwadau ymlaen i’r aelod o staff perthnasol a byddwch yn derbyn ymateb ysgrifenedig.

CWYNION - SUT I GAEL EICH CLYWED

Os ydych yn anhapus gyda’ch gwasanaethau cymdeithasol, mae hawl gyda chi i gwyno.

Rydym yn anelu am safonau uchel ond ar adegau gall pethau fynd yn anghywir. Oni bai eich body n dweud wrthym, ni fydden yn medru gweithio gyda chi i gywiro pethau cyn gynted ag y bo modd.

Manylion Cyswllt

Swyddog Cwynion
Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Llys yr Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffon: (01495) 354629
Ffacs: (01495) 355285

E-bost : social.services.complaints@blaenau-gwent.gov.uk