Cyflwyniad
Mae’n rhaid i ni gadw cofnodion am yr hyn i ni yn ei wneud gydag unrhyw berson sydd yn defnyddio ein gwasanaethau. Cedwir cofnodion yn ein swyddfeydd lleol ynghyd ag yn ein cartrefi preswyl, canolfannau dydd, a llefydd eraill o ble y darperir gwasanaethau.
Os ydych yn derbyn, neu wedi derbyn help oddi wrthym, mi ddylech chi fod â mynediad i’ch cofnodion lle bynnag bo hynny’n bosibl. Gallwch chi hefyd ofyn i rywun arall i gysylltu gyda ni ar eich rhan, megis perthynas. Mewn achosion fel hyn bydd angen i ni wirio bod gyda ni eich caniatâd i ryddhau unrhyw wybodaeth.
Eich hawliau cyfreithiol
Ystyr ‘Gwybodaeth Bersonol’ yw unrhyw beth y gellir eich adnabod chi, megis eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, a gwybodaeth am eich ymwneud gyda ni.
Mae gwybodaeth bersonol sydd yn cael ei dal amdanoch ar gyfrifiadur hefyd yn dod o fewn y diffiniad ac yn dod o fewn y Ddeddf Diogelu Data 1998. Mae hwn yn gosod gydag eithriadau penodol, bod hawl gyda chi i wybodaeth bersonol sydd yn cael ei ddal amdanoch chi. Mae hawl gyda chi i gywiro camgymeriadau, a dileu unrhyw wybodaeth ddiangen.
Eithriadau
Mae yna rai amgylchiadau lle na all y wybodaeth fod ar gael. Y rhain yw:
- lle mae yna wybodaeth am berson arall;
- gwybodaeth am ataliad neu ddarganfyddiad trosedd;
- gwybodaeth sydd wedi ei gyfyngu o dan y gyfraith, (dogfennau mabwysiadu gan fwyaf);
- mewn achosion eithriadol, os oes yna risg o niwed.
Sut mae gofyn am gael gweld fy ffeil?
Ysgrifennwch at:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Anvil Court
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Dylai eich llythyr gynnwys eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni a digon o fanylion i ni eich adnabod a gwybod pa wybodaeth i chi ei angen.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i gydnabod eich cais o fewn pum diwrnod gwaith. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth i chi o fewn 40 diwrnod o dderbyn y cais.
Mae’n rhaid i ni ymgynghori gyda phobl broffesiynol ac asiantaethau, er enghraifft yr Awdurdod Iechyd, cyn rhoi'r wybodaeth maent wedi ei roi i ni amdanoch chi.
Beth os gwrthodir mynediad i mi?
Os ydych yn cael gwybod nad oes hawl gyda chi i weld ei ffeil bersonol, mae gyda chi’r hawl i apelio’r penderfyniad yma drwy gysylltu gyda Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ddefnyddio’r cyfeiriad uchod.
Beth os oes camgymeriadau yn fy ffeil?
Os oes yna gamgymeriadau ffeithiol ar eich ffeil, gallwch ofyn iddynt gael eu cywiro. Os byddwn yn dweud wrthych nad yw’r ffeil i’w gael ei newid, mae gyda chi hawl i apelio. Gall eich gweithiwr cymdeithasol roi mwy o fanylion i chi am hyn.




