Gwasanaethau cymdeithasol

Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent yn rhoi cymorth i’r bobl hynny sydd angen Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys y rheiny sydd angen eu hamddiffyn, er mwyn datblygu’u galluoedd i fyw bywydau mor annibynnol ac mor gyflawn â phosibl.

Pwy mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu cynorthwyo?
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn cynorthwyo:

  • Plant a phobl ifanc dan 18 oed a’u teuluoedd.
  • Pobl ifanc y mae’r Cyngor wedi edrych ar eu holau.
  • Oedolion a Phobl Hyn gydag anableddau corfforol, anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl neu broblemau sy’n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol.
  • Gofalwyr, hynny yw teulu a ffrindiau sy’n edrych ar ôl eraill.


Pa gymorth a ddarperir?
Mae Gwasanaethau Plant yn ymwneud ag ystod eang o ddarpariaethau a gofynion deddfwriaethol sy’n benodol ar gyfer
hyrwyddo lles yr holl blant mewn angen a’u teuluoedd ac amddiffyn plant rhag niwed.  Mae ystod eang o wybodaeth ar gael, gan gynnwys taflenni ar y canlynol:

  • Ynghylch Mabwysiadu
  • Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd
  • Dewch yn Ofalwr Maeth
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ym Mlaenau Gwent
  • Tîm Plant ag Anableddau
  • Rhowch eich barn ar y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gweithdrefnau Cyfreithiol a’ch Plentyn
  • Maethu Preifat
  • Gwasanaethau ar gyfer Plant â Nam ar eu Golwg
  • Mabwysiadu Llys-Riant

Mae Gwasanaethau Oedolion yn darparu ystod eang iawn o gymorth i amrywiol grwpiau o bobl gyda nifer o anghenion cymorth a gofal.  Mae ystod eang o wybodaeth ar gael, gan gynnwys taflenni ar y canlynol:

  • Canolfan Ddydd Ash Park
  • Hyfforddiant Ashville
  • Asesiad ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymunedol
  • Ty Augusta
  • Canolfan Bert Denning
  • Dewis Cartref Gofal
  • Gofal Cymunedol ym Mlaenau Gwent
  • Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol
  • Cyfrannu Tuag at Gost Gwasanaethau Dibreswyl
  • Cartref Preswyl Cwrt Mytton
  • Taliadau Uniongyrchol
  • Cilfachau Parcio i Bersonau Anabl
  • Meini Prawf Cymhwysedd a’r Weithdrefn Apelau
  • Gwasanaeth Cymorth fel y bo’r Angen
  • Gwasanaeth Gofal Cartref
  • Tîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty
  • Uned Gofal Dydd ar y Cyd
  • Prosiect Symud Ymlaen
  • Gofal Preswyl a Nyrsio Talu am Ofal mewn Cartref Gofal
  • Gwasanaethau ar gyfer y byddar a’r rheiny sy’n drwm eu clyw
  • Gwasanaethau i Bobl â Nam ar eu Golwg
  • Cymorth i Ofalwyr
  • Uned Adnoddau Cymunedol Tredegar
  • Canolfan Ddydd Ty Gweledigaeth

 phwy rydych chi’n cysylltu am gymorth oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Mae canolfan alwadau’r Cyngor, C2BG, yn darparu’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy’n dymuno gofyn am gymorth ar eu cyfer hwy eu hunain neu, gyda’u caniatâd, ar gyfer perthynas neu ffrind.  Gellir cysylltu â C2BG yn bersonol drwy fynychu un o’r sesiynau allanol, neu drwy alwad ffôn, drwy lythyr, ffacs neu e-bost.  Y dulliau hyn hefyd yw’r pwynt cyswllt cyntaf gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol gan asiantaethau eraill, fel iechyd, addysg, yr heddlu a thai.

Pa wybodaeth sydd ei hangen ar y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Pan ddowch i gysylltiad â C2BG gofynnir rhai cwestiynau i chi ynghylch yr amgylchiadau a arweiniodd at eich cyswllt ac i ddarganfod a allai’r Gwasanaethau Cymdeithasol eich helpu.

Bydd angen peth gwybodaeth sylfaenol gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt ac os gwneir yr atgyfeiriad ar ran rhywun arall fe fydd angen manylion y person hwnnw hefyd.  Gellir cymryd atgyfeiriadau anadnabyddus ond gallai fod angen manylion ychwanegol ar C2BG i brosesu’r atgyfeiriad.

Mae’n rhaid i ganiatâd y person sy’n cael ei atgyfeirio fod wedi’i dderbyn cyn gwneud atgyfeiriad. Yn anaml y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn atgyfeiriadau heb ganiatâd o’r fath, ac os na dderbyniwyd caniatâd, mae’n rhaid rhoi eglurhad.

Beth sy’n Digwydd Nesaf?
Bydd C2BG yn penderfynu a drosglwyddir y wybodaeth a ddaparwyd gennych i staff arbenigol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol; neu fe allent eich ailgyfeirio i asiantaeth neu sefydliad arall; neu fe allent anfon gwybodaeth allan; neu os yw’n bosibl gallent ddelio â’r ymholiad yn y fan a’r lle.

Os trosglwyddir eich gwybodaeth i staff arbenigol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol fe wnânt asesiad, fe ddywed hwn wrthym beth yw’ch anghenion, ac a ydych yn gymwys ar gyfer gwasanaethau.  Mae’n rhoi gwybodaeth ynghylch y modd y gellir diwallu’ch anghenion orau.

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu cymorth i bobl agored i niwed yn unig gydag anghenion gofal cymdeithasol arbennig sy’n gymwys ar gyfer y cymorth hwnnw.  Defnyddia’r Gwasanaethau Cymdeithasol ‘feini prawf cymhwysedd’ i benderfynu’n deg pwy ddylai gael blaenoriaeth ar gyfer cefnogaeth a chymorth.

Beth allaf ei wneud os â pethau o chwith?
Os ydych yn anhapus ynghylch unrhyw rai o’n gwasanaethau, neu ynghylch y modd y cawsoch eich trin, mae gennych yr hawl i gwyno.  Os dymunwch, gallech gael rhywun gyda chi i siarad ar eich rhan neu i’ch cefnogi.

Gellir cael manylion pellach o’r modd i ddefnyddio’r weithdrefn gwyno yn nhaflen gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol, neu drwy gysylltu â’r Swyddog Cwynion a leolir yn swyddfa’r Pencadlys.

Manylion Cyswllt

Headquarters:
Social Services Department
Anvil Court
Church Street
Abertillery
NP13 1DB

Tel: (01495) 354680

Children Services Teams:
Social Services Department
7 Bridge Street
Ebbw Vale
NP23 6EY

Tel: (01495) 350555

Dedicated Adult Referrals Team:
C2BG
The Contact Centre
Central Depot
Barleyfield Industrial Estate
Brynmawr
NP23 4YF

Tel: (01495) 315700