Os oes gyda chi colled gweledol, clywedol, neu’r ddau, bydd y daflen hon yn esbonio sut y gallwn eich helpu. Ein nod yw darparu gwasanaeth, sydd yn ymatebol i’ch anghenion unigol.
Mae gennym ni gyfrifoldeb statudol i:
- Ymgymryd ag asesiad o’ch anghenion;
-
Cadw indecs o rywun sydd yn rhoi cydsyniad i gael eu cofrestru fel person sydd â nam ar y synhwyrau.
Gall hyn arwain at:
- Trefnu gwasanaethau, cyngor a chefnogaeth i bobl sydd yn byw yn y Gymuned;
- Trefnu cyfleusterau ar gyfer adferiad, i hyrwyddo a galluogi sgiliau byw’n annibynnol, ac anghenion symudedd a chyfathrebu;
- Trefnu mynediad i weithgareddau.
SUT GALL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL HELPU?
Gallwn ymgymryd ag asesiad o’ch anghenion. Bydd hwn yn cynnwys gofyn am sut y mae'r nam ar y synhwyrau yn effeithio eich bywyd. I helpu ni i benderfynu pwy ddylai gael cynnig y gwasanaeth, byddwn yn defnyddio maen prawf cymhwyster. Bydd y maen prawf yn galluogi mynediad teg i wasanaethau a bydd yn helpu gofalwyr i barhau gyda’u cyfraniad pwysig. Mae’n ofyniad o Lywodraeth Cynulliad Cymru ein bod yn gweithredu yn y modd yma.
Efallai y byddwn yn medru cynnig cymorth i’ch galluogi chi i fwyhau eich annibyniaeth. Os yw peth cyfarpar yn briodol byddwn yn asesu hyn ac mewn rhai amgylchiadau yn cael ei ddarparu.
Bydd cynllun gofal yn cael ei gytuno ar sut y byddwn yn bwriadu diwallu eich hanghenion.
GWELD YN RHANNOL A DALLINEB
I gychwyn ymweliad Cofrestriad, bydd tystysgrif BD8 yn cael ei lofnodi gan Ymgynghorydd Offthalmolegydd. Bydd hwn yn cael ei ddanfon ymlaen i ni a byddwn yn cysylltu gyda chi i drefnu asesiad o’ch gofynion.
COFRESTRIAD
Yn ystod yr ymweliad Cofrestri, gallwch ddewis i gael eich cofrestru gyda ni.
ADFERIAD
Rôl Swyddog Adferiad yw datblygu, adfer a chynnal eich annibyniaeth o fewn y Gymuned.
Gellir cael cyngor a help ar:
- Sut i fynd ynghylch eich pethau, y tu fewn a’r tu allan, yn ddiogel;
- Sut i barhau i ddarllen ac ysgrifennu;
- Sut i goginio yn ddiogel;
- Cyfarpar arbenigol.
BYDDAR, WEDI'U BYDDARU, A THRWM EU CLYW
Ymgymerir ag asesiad o’ch anghenion. Yn ystod eich ymwneud gyda ni efallai y bydd yna achlysuron lle byd angen Dadansoddwyr, e.e. cyfarfodydd. Os felly, bydd hyn yn cael ei drefnu. Mae’r holl weithwyr o fewn y Tîm Synnwyr gyda Chymwysterau BSL a gellir cael gafael arnynt drwy minicom a ffacs.
COLLED SYNHWYRAU DEUOL
Os oes gyda chi colled clywedol a gweledol yna efallai y bydd angen asesiad a gwasanaethau arbenigol arnoch. Mae ein gwasanaeth yn bwriadu i ddarparu a galluogi mynediad i ystod eang o wasanaethau statudol a gwirfoddol a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ar gyfer pobl gyda cholled gweledol, clywedol neu golled synhwyrau deuol.
Rydym yn gweithio o fewn canllawiau'r ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf GIG a Gofal Cymdeithasol (1990)
- Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl (2000)
- Deddf Personau Ag Afiechyd Cronig ac Anabl (1970)
- Deddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd (2005)
-
Deddf Cymorth Cenedlaethol (1948)





