Mae gan Reolwyr Gofal a gyflogir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fynediad i ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau, a gall unrhyw un ohonynt fod yn addas ar gyfer defnyddwyr unigol posibl. Mae anghenion pawb yn wahanol, felly anelwn weithio gyda phob person i gytuno ar eu hanghenion a sut y medrid eu cyflawni.
Mae’r dilynol yn enghreifftiau o’r math o help y medrwn ei drefnu:
- Help gyda gofal personol, fel ymolchi a gwisgo
- Prydau bwyd
- Cefnogaeth i ofalwyr
- Lle mewn canolfan ddydd
- Addasiadau neu offer yn eich cartref i’w wneud yn rhwyddach ymdopi
- Seibiant tymor byr i chi a’ch gofalwyr
- Os oes angen, gofal am gyfnod hirach mewn cartref preswyl neu nyrsio





