Tîm Anableddau Dysgu yn y Gymuned
Mae’r tîm yn darparu gwasanaethau asesu a rheolaeth gofal sy’n hyrwyddo unigoliaeth ac yn galluogi pobl gydag anabledd dysgu i gael patrymau arferol o fywyd o fewn y gymuned a helpu i ddatblygu eu potensial i’r eithaf.
Strategaeth Anabledd Dysgu
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori mae’r fersiwn diwygiedig o’r Strategaeth Anabledd Dysgu ar gael yn awr ac yn barod i fynd i mewn i cyfnod gweithredu. Dyma’r strategaeth integredig gyntaf ar gyfer gwasanaethau anabledd dysgu ar gyfer poblogaethau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae ein balchder yn dod nid yn unig o fod wedi gweithio gyda’n gilydd i gynhyrchu cyfeiriad y dyfodol ar gyfer gwasanaethau anabledd dysgu, ond hefyd o wybod ein bod wedi ei adeiladu yn seiliedig ar farnau pobl ag anabledd dysgu a'u gofalyddion. Dilynwch y ddolen i weld y Strategaeth hon neu cysylltwch â Rheolwraig y Rhaglen, Karen Morris, gydag unrhyw ymholiadau ar (01443) 864528.





