Plant gydag Anableddau

Mae’r Tîm Plant ag Anableddau’n gweithio gyda phlant (rhwng 0 - 18 oed) a theuluoedd lle mae plant ag anableddau dysgu, corfforol neu synhwyraidd a’r rheiny’n rhai difrifol ac yn achosi anhawster sylweddol iddynt yn eu bywyd bob dydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda phlant sydd ag afiechydon all fygwth bywyd. Nod y tîm yw darparu cymorth i helpu’r plant hyn i fyw gyda’u teuluoedd a mwynhau’r un cyfleoedd a’r un disgwyliadau â phlant eraill.

Yn y mwyafrif o achosion rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd ynghyd ag asiantaethau perthnasol eraill gan gynnwys Iechyd ac Addysg i ddarparu cymorth i blant a’u teuluoedd er mwyn diwallu’u hanghenion asesedig.

Yn ogystal mae gan y Tîm Plant ag Anableddau Therapydd Galwedigaethol sy’n ymgymryd â’r asesiadau parthed plant ag anableddau allai fod angen cyfarpar arbenigol neu addasiadau i gartref y teulu.

Mae’r Tîm yn gweithio i egwyddorion a gofynion y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â phlant a phobl anabl. 


Darganfod pa gymorth sydd ei angen arnoch? (Asesiad Angen)

Cyn y gallwn gynnig cymorth, mae angen i ni ddarganfod pa fath o gymorth yn union sydd ei angen arnoch. Gwnawn hyn drwy’r broses asesu.

Mae gan blant a phobl ifanc ag anableddau’r hawl gyfreithiol i gael eu hanghenion wedi’u hasesu (ac anghenion eu gofalwyr), o wneud cais am yr hawl honno. Er mwyn cael darlun clir o anghenion eich plentyn, gallai fod angen i ni ymgynghori ag Iechyd, Addysg ac unrhyw asiantaethau gwirfoddol sydd ynghlwm wrth yr asesiad.

Unwaith bydd ein hasesiad yn cadarnhau bod eich plentyn yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y tîm a thynnu’n sylw at ba wasanaethau cymorth sydd eu hangen arnoch, byddwn yn cychwyn eu rhoi yn eu lle.

Gwasanaethau y gallem fedru eu cynnig (yn rhwym wrth gymhwyster)

  • Gweithiwr allweddol, a chysylltu â gwasanaethau eraill e.e. Iechyd, Addysg.
  • Cyfleusterau gwyliau byr (seibiant).
  • Cyngor ar fudd-daliadau.
  • Cymhorthion/addasiadau.
  • Cymorth Gofal Cartref.
  • Cymorth cymunedol.
  • Cyngor ynghylch elusennau cofrestredig.
  • Gwybodaeth ar sefydliadau eraill, sy’n darparu cymorth.
  • Cyfraniadau ysgrifenedig i’r broses datganiad addysgol.
  • Asesiadau gofalwyr.
  • Prosiect Gofalwyr Ifanc.

Mwy o wybodaeth am y gwasanaethau

Gwyliau byr – cyswllt teulu:  Gall y gwasanaeth hwn ddarparu seibiannau byr rheolaidd gan gynnwys arosiadau dros nos drwy gysylltu’r plentyn ag anabledd i deulu arall. Mae’r gwasanaeth yn cynnig seibiannau i rieni a phrofiadau newydd i’r plentyn. Mae teuluoedd cyswllt yn cael eu hasesu’n llym ac maent yn derbyn tâl a chymorth parhaus.

Gwasanaeth cymunedol:  Mae’r Tîm Plant ag Anableddau’n gweithio’n glos iawn gyda phrosiect Barnardos a leolir yn ardal Blaenau Gwent. Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi plentyn anabl i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol gyda chefnogaeth gweithiwr cymorth Barnardos.

Bydd y gweithiwr cymorth yn cynorthwyo’r plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn ei gymuned/chymuned er mwyn helpu’r plentyn i deimlo’n rhan o’r gymuned a datblygu’i sgiliau cymdeithasol ac annibynnol e.e. clybiau ieuenctid, clybiau nofio, ymweld â llefydd o ddiddordeb, ac ati.

Gall y tîm, ar y cyd gyda Barnardos, lle cyflawnwyd asesiad, drefnu i weithiwr cymorth ddarparu gwasanaeth “eistedd gartref” i alluogi rhiant/rhieni i gael seibiant. 

Mae Barnardos hefyd yn rhedeg Cynllun-chwarae yn ystod yr haf i blant ag anableddau.

Gofal Cartref:  Cynigir Gofal Cartref i ddarparu cymorth ymarferol yng nghartref y plentyn e.e. cymorth gyda gofal personol.  

Sut caf i gymorth oddi wrth y Tîm Plant ag Anableddau?

Os oes gennych chi blentyn ag anableddau ac yn dymuno gwneud defnydd o unrhyw rai o’r gwasanaethau hyn, yn gyntaf bydd angen i chi gael anghenion eich plentyn wedi’u hasesu gan weithiwr cymdeithasol.

Manylion Cyswllt

C2BG
Canolfan Gyswllt
Depot Canolog
Stad Ddiwydiannol Barleyfield
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350
Minicom: (01495) 355959

E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk