Pobl anabl - hawlenni parcio - bathodyn glas

Blue Badge Logo

Mae’r Cynllun Bathodyn Glas yn darparu trefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio ar gyfer pobl sydd yn teithio fel gyrRwyr neu deithiwr gyda’r canlynol:


  • Anawsterau cerdded difrifol.
  • Wedi cofrestri’n ddall.
  • Anableddau aelod uwch o’r corff difrifol sydd yn gyrru cerbyd yn rheolaidd ond ni allant droi'r olwyn gyrru gyda llaw (hyd yn oed os wedi eu ffitio gyda bwlyn troi).

Os nad yw un o’r uchod yn gymwys efallai eich bod dal yn gymwys ar gyfer bathodyn ond bydd angen i chi gael eich asesu i benderfynu os oes gennych anabledd parhaol a sylweddol sydd yn golygu nad ydych yn medru cerdded neu'ch bod yn cael anhawster wrth gerdded.

Sut wyf i wneud cais?
Drwy lanw’r ffurflen gais dros y ffôn gyda C2BG (01495 311556).  Anfonir y ffurflen atoch i’w gwirio ac i arwyddo’r datganiad.  Mae’n rhaid i chi gynnwys y canlynol yn y cais a ddychwelir:


  • Dogfennau personol sy’n cefnogi unrhyw gwestiynau yr atebwyd yn gadarnhaol iddynt yn adran gymhwyso awtomatig y ffurflen gais – gall y rhain fod yn gopïau gafodd eu dyblygu; ar gyfer dychwelyd unrhyw ddogfennau gwreiddiol, mae’n rhaid amgáu amlen â’r cyfeiriad a stamp arni.  Byddem yn dychwelyd y dogfennau gyda’r Bathodyn Glas, felly nid oes angen amlen â’r cyfeiriad a stamp arni.
  • Dau lun diweddar (maint pasbort 2 x 2.5“), y mae’n rhaid eu harwyddo ar y cefn.
  • Ni fydd pobl ag anableddau dros dro yn gymwys ar gyfer Bathodyn Glas.

Bydd angen i chi lanw ffurflen gais ar gyfer cais gwreiddiol am fathodyn neu ar gyfer cais a adnewyddir.  Mae’n rhaid gwneud cais am adnewyddu ddau fis cyn i ddyddiad y bathodyn ddod i ben.

Faint fydd y gost?
Siec neu archeb bost o £2 yn daladwy i Fwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.  Ni ellir derbyn arian.

Os ydych wedi ateb unrhyw gwestiwn yn gadarnhaol yn adran gymhwyso awtomatig y ffurflen gais yna mae’n rhaid i chi gynnwys y ffi o £2 gyda’ch ffurflen gais.

Os ydych wedi ateb yn negyddol i bob cwestiwn yn adran gymhwyso awtomatig y ffurflen gais, nid oes yn rhaid i chi gynnwys y ffi o £2 tan i chi dderbyn cadarnhad i’ch cais gael ei gymeradwyo.

Faint gymer i’m cais gael ei brosesu?
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i brosesu’ch cais o fewn 21 o ddiwrnodau.

Gellir oedi’r ceisiadau os yw’r ffurflen yn anghyflawn a’r ddogfennaeth berthnasol heb ei chynnwys.

Am faint o amser mae’r Bathodyn Glas yn ddilys?
Bydd eich Bathodyn Glas yn ddilys am dair blynedd o ddyddiad ei gyflwyno.

I adnewyddu’ch Bathodyn bydd angen i chi ddilyn y broses gwneud cais unwaith eto.

Lle rwyf yn dychwelyd fy nghais?
C2BG
Y Cynllun Bathodyn Glas
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Y Canolfan Cyswllt
Canolfan Depo
Ystad Ddiwydianol Barleyfield
Brynmawr
NP23 4YF

Manylion Cyswllt

C2BG
Y Ganolfan Gyswllt
Depo Canolog
Ystâd Ddiwydiannol Barleyfield
Brynmawr
NP23 4YF

Tel: (01495) 311556