Diogelu oedolion archolladwy

Cyflwyniad
Yn y blynyddoedd diweddar cafodd cam-drin oedolion dipyn o gyhoeddusrwydd.  Mae llawer mwy o bobl yn ymwybodol y gallai oedolion bregus fod yn agored i gam-drin ac maent yn dymuno gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth iechyd a’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) nawr yn gweithio gyda’i gilydd i geisio rhwystro cam-drin rhag digwydd a’i atal pan ddigwydd.

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth ar yr oedolion hynny sydd mewn perygl a’r mathau o gam-drin a wynebant.  Mae’n darparu cyfarwyddyd ynghylch y bobl hynny a allai fod yn cam-drin oedolion.  Mae hefyd yn rhoi pwyntiau cyswllt ar gyfer cymorth a chyngor pellach os ydych yn cael eich cam-drin neu’n pryderu y gallai fod rhywun rydych yn ei adnabod mewn perygl.

Beth yw oedolyn bregus?
Mae llawer o bobl yn cysylltu cam-drin oedolion â phobl egwan, hyn.  Weithiau gallai pobl hyn fod yn fregus, ond gall oedolyn bregus fod yn unrhyw un dros 18 oed sydd ag anabledd corfforol neu synhwyraidd, neu anhawster dysgu neu broblem iechyd meddyliol, ac a allai fod yn analluog i amddiffyn ei hun rhag cam-drin neu niwed.

Beth yw cam-drin?
Cam-drin yw unrhyw ymddygiad tuag at berson sy’n achosi niwed iddo ef neu iddi hi, sy’n peryglu bywyd neu’n tanseilio hawliau’r person hwnnw.  Gall ddigwydd i ddynion yn ogystal â menywod.

Gallai olygu cam-drin:

  • Corfforol e.e. ysgwyd, taro, gwthio neu gicio rhywun.
  • Rhywiol e.e. unrhyw weithgarwch rhywiol nad yw’r person ei eisiau, ei ddeall neu gytuno iddo.
  • Seicolegol e.e. bygythiadau o niwed neu adawiad neu sarhad, agwedd fygythiol neu gam-drin geiriol.
  • Ariannol e.e. dwyn arian person neu wadu iddo fynediad i’w arian neu i’w eiddo.
  • Diofal e.e. anwybyddu anghenion meddygol neu anghenion gofal rhywun, neu wrthod iddo fwyd, diod neu gymhorthion at fywyd beunyddiol.
  • Gwahaniaethol e.e. sylwadau neu weithredoedd sarhaus ynghylch oedran, hil, crefydd, rhyw neu fedrau person.

Pwy allai fod yn cael eu cam-drin neu mewn perygl o gael eu cam-drin?

  • Gall unrhyw oedolyn bregus fod mewn perygl o gael ei gam-drin neu’i niweidio.
  • Gall pobl gael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain, mewn cartrefi gofal, yn y gwaith, mewn ysbytai, mewn gorsafoedd heddlu ac mewn mannau cyhoeddus. 

Pwy allai fod yn gamdriniwr?

  • Naill ai menyw neu ddyn.
  • Partner, plentyn neu berthynas, neu aelod arall o’r teulu.
  • Ffrind neu gymydog.
  • Gweithiwr sy’n gwirfoddoli.
  • Gweithiwr iechyd neu weithiwr cymdeithasol.
  • Aelod o staff mewn cartref gofal neu gynllun tai cysgodol.
  • Oedolyn bregus arall.
  • Unrhyw un arall â mynediad at y person dan sylw.
  • Dieithryn.

Beth sydd angen i fi ei wneud?
Mae’n gyfrifoldeb arnom ni gyd i amddiffyn oedolion bregus rhag cael eu cam-drin.  Os ydych yn gwybod bod digwyddiad o gam-drin wedi digwydd, dylech hysbysu’r awdurdodau.

Gallwch gysylltu ag unrhyw rai o’r asiantaethau a restrir ar gefn y daflen hon.  Os yw’n argyfwng, dylech gysylltu â’r heddlu ar unwaith.  Fe gymerant eich pryderon o ddifrif ac fe weithiant gyda chi ac eraill er mwyn gwneud yn siwr fod pawb yn ddiogel.

Gall gofalu am oedolyn bregus fod yn anodd.  Gall gofalwyr deimlo’n ynysig a theimlo dan bwysau.  Os ydych yn gofidio y gallech niweidio’r person rydych yn gofalu amdano, mae’n bwysig eich bod yn siarad â rhywun.  Gallwch gysylltu ag unrhyw rai o’r asiantaethau a restrir ar y daflen hon ac fe fyddant yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth i chi.

Gallai aelodau staff sy’n gweithio gydag oedolion bregus fod yn bryderus ynghylch canlyniadau hysbysu’r awdurdodau o achos o gam-drin.  Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth rywun beth sy’n digwydd.  Gallai’r person sy’n dioddef unrhyw gam-drin fod yn analluog i hysbysu unrhyw un arall o’r cam-drin ac fe allai ddibynnu arnoch chi i godi llais ynghylch eich amheuon.  Fe gynigir cyngor a chymorth i chi gan yr asiantaethau a restrir yn y daflen hon.

Manylion Cyswllt

C2BG
Canolfan Gyswllt
Depot Canolog
Stad Ddiwydiannol Barleyfield
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350
Minicom: (01495) 355959

E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk



Tîm Dyletswydd Brys y Gwasanaethau Cymdeithasol
Ffôn: 0800 328 4432
Minicom: 0800 587 9963

Cydgysylltwr Amddiffyn Oedolion
Cwrt yr Eingion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
Gwent
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 325445
Ffacs: (01495) 355285


Uned Atgyfeirio’r Heddlu AGGCC
Ystâd Parc Mamhilad
Mamhilad
Pont-y-pwl
NP4 0XX

Achosion Brys: 999
Achosion heb fod yn rhai brys: 101
Ymholiadau Cyffredinol: (01633) 838111
Minicom: (01633) 877574


Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Gildings
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Ffôn: 0300 0628757
Ffacs: 0300 0628548
E-bost : cssiw@wales.gsi.gov.uk