Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn ariannu Gwasanaeth Cenedlaethol Eiriolaeth Ieuenctid (NYAS) i helpu plant a phobl ifanc sy’n derbyn cefnogaeth gan Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent.
Mae NYAS yn wasanaeth newydd sy’n ymweld â phlant a phobl ifanc ac yn eu cefnogi i wneud yn sicr fod oedolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’u gofal yn gwrando arnynt. Gall hyn gynnwys eu cefnogi i fynychu cyfarfodydd, ysgrifennu llythyrau, gwneud cwyn neu gael ateb i broblem sydd ganddynt ac na wyddant i bwy arall i ofyn.
Agwedd arall o’r gwasanaeth yw cefnogi plant sy’n “derbyn gofal” gan yr awdurdod lleol ac nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad gyda’u teulu. Gall hyn olygu bod gweithiwr wedi’i hyfforddi yn ymweld bob mis â’r plentyn neu berson ifanc i’w helpu i ddatblygu neu ddilyn hobi, mynychu gemau pêl-droed neu fynd â hwy i siopa!
Mae NYAS yn sefydliad cenedlaethol sydd â swyddfa leol ar Safle Gwyl Glynebwy.
Medrwch ffonio NYAS os ydych chi’n berson ifanc gyda phroblem neu’r hoffech gael cyngor neu os hoffech siarad yn gyfrinachol gyda chynghorydd.





