Grant Kick Start
Mae’r cynllun grant yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent ac UK Steel Enterprise i roi cymorth ariannol i brosiectau sefydlu busnesau o fewn bwrdeisdref Blaenau Gwent.
Mae’r cynllun ar agor i unigolion/grwpiau o unigolion sy’n dymuno dilyn cyfleoedd cychwyn busnes. Caiff pob prosiect hyfyw i sefydlu busnesau eu hystyried (ac eithrio busnesau symudol) gan ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf a nodwyd.
Gallai’r grant o bosibl ariannu 50% o gostau cymwys hyd at uchafswm o £2000.
LIF Cymru De-ddwyrain Cymru
(Cronfa Fuddsoddi Leol
De-ddwyrain Cymru)
Cynllun grant hyblyg yw Cronfa Fuddsoddi Leol De-ddwyrain Cymru (CFL) sy’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth Awdurdodau Lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Cafodd y prosiect ei ddatblygu gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, o dan y Rhaglen Gydgyfeirio.
Mae'r CFL yn darparu cymorth ariannol i helpu busnesau lleol cymwys i ddatblygu a thyfu, drwy gefnogi buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.
Ydy fy musnes i’n gymwys?
Diben penodol y Gronfa Fuddsoddi Leol yw cefnogi ystod o fusnesau bach a chanolig (BBChau). Mae’r grant ar gyfer y
sector gweithgynhyrchu a gwasanaethau cysylltiedig yn bennaf. Dyw’r sector manwerthu ddim yn gymwys ond gellid
ystyried sectorau eraill.
Bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos bod cyfran sylweddol o’u gweithgaredd yn cael ei gyflawni o fusnes i fusnes a bod ganddynt allu i ‘ychwanegu gwerth’ neu gynnig budd sylweddol i’r economi leol (e.e. drwy greu swyddi newydd).
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae grantiau rhwng £1,000 a £10,000 ar gael, wedi’u seilio ar 40% o gostau cymwys y prosiect.
Gallai prosiectau cyfalaf cymwys gynnwys:
-
Cyfarpar cyfalaf
-
Offer TGCh
-
Datblygu gwefannau
-
Deunyddiau marchnata
-
Gwaith a newidiadau allanol neu fewnol ar adeiladau
Nid yw gwariant a dynnir cyn i’r grant gael ei gymeradwyo yn gymwys i’w gyllido.

Rhaglen Datblygu Economaidd Cymunedol De Ddwyrain Cymru
Diben y cynllun yw hyrwyddo twf a datblygiad Mentrau Cymdeithasol yn rhanbarthol a chefnogi Datblygu Economaidd Cymunedol ym mhob rhan o ranbarth y De Ddwyrain.
Bydd y prosiect yn cynnig rhaglen grant hyblyg gyda ffocws lleol i sefydliadau sy’n ffurfio mentrau cymdeithasol er mwyn cynyddu cyfraniad economaidd a chynaliadwyedd y trydydd sector.
Bydd y rhaglen yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau cymwys ym Mwrdeistrefi Sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Os yw eich Menter Gymdeithasol ym Mlaenau Gwent a’ch bod yn dymuno mwy o wybodaeth am y cynllun grant hwn, cysylltwch â’r Uned Datblygu Economaidd ar 01495 355700 neu e-bostiwch business.services@blaenau-gwent.gov.uk

Cronfa Cyfalaf Cychwynnol Busnes Blaenau’r Cymoedd.
Cymorth ariannol ar gyfer preswylwyr sy’n sefydlu busnes am y tro cyntaf a busnesau presennol o fewn ardal Blaenau’r cymoedd.
Mae Cronfa Cyfalaf Cychwynnol Busnes Blaenau’r Cymoedd yn gynllun grant hyblyg sy’n cael ei weithredu dryw bartneriaethau ar draws Awdurdodau Lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen. Crewyd er mwyn helpu trigolion ardal Blaenau’r Cymoedd gychwyn busnes llawn-amser am y tro cyntaf, lle nad ydynt yn gallu derbyn cymorth ariannol o ffynonellau eraill a busnesau presennol sy’n dymuno datblygu a thyfu lle nad yw’r prosiect yn cyflawni meini prawf y cymorth grant arall sydd ar gael ar hyn o bryd.
Please see the document below for more information.





