Rôl y therapydd galwedigaethol cymunedol
Mae Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol yn asesu anghenion defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anableddau. Anelwn eich helpu I gyrraedd eich lefel uchaf bosibl o annibyniaeth ym mhob gweithgaredd bywyd bob dydd.
Medrwn:
- Roi cyngor ar weithgareddau bob dydd megis gwisgo, mynd I mewn ac allan o’r bath, mynd i mewn ac allan o gadair, ac ati.
- Roi cymorth a chyngor ymarferol i ofalwyr, i’w galluogi i barhau i ofalu am ddiogelwch unigolion, o fewn amgylchedd eu Cartref eu hunain.
Er mwyn cyflawni’r lefel uchaf o annibyniaeth, rydym yn cydlynu’n agos gydag eraill e.e. gweithwyr proffesiynol ym meysydd Iechyd, Tai, Asiantaethau Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Beth mae therapyddion galwedigaethol cymunedol yn ei ddarparu?
Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref eich hunan a byddwn yn siarad gyda chi a’ch gofalydd/gofalwyr am y problemau yr ydych yn eu cael.
Medrwn ddymuno i chi wneud tasgau ymarferol, a fydd yn rhoi darlun clir i ni o beth yw eich anawsterau.
I sicrhau eich bod yn derbyn asesiad cyflawn o’ch anghenion, byddwn angen gwybodaeth am eich cyflwr meddygol a, gyda’ch caniatad, gall fod angen i chi gysylltu â’ch Meddyg Teulu neu Ymgynghorydd Meddygol.
Medrwn ddarparu unrhyw un o’r dilynol:
- Cyngor a gwybodaeth ar ddulliau eraill o wneud tasgau
- Offer i gael ei osod yn eich cartref a chyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio
- Cefnogaeth ar wedd argymhellion i’r Adran Tai berthnasol ar gyfer addasiadau i’ch cartref (e.e. rampiau i ganiatau mynediad cadair olwyn).
Y system atgyfeirio
Gall unrhyw un wneud atgyfeiriad i’r Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol drwy gysylltu â’r system ddyletswydd yn C2BG ar (01495) 315700.
Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros am asesiad therapi galwedigaethol?
Er mwyn rheoli’r nifer uchaf o geisiadau ar gyfer asesiadau Therapi Galwedigaethol, byddwn yn blaenori’r ceisiadau hynny sydd â’r angen mwyaf cymhleth a brys am help.
Mae’n bwysig fod y person sy’n gwneud yr atgyfeiriad yn rhoi cymaint o wybodaeth ag sydd modd i’r swyddog dyletswydd. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn ymateb priodol, o fewn amserlen a gytunwyd, yn ôl eich anghenion.
Pan dderbyniwn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anawsterau a threfnu ymweliad i chi os yw’n briodol.
Gwybodaeth arall
Mae taflenni arall ar gael, sy’n rhoi mwy o fanylion ar:
- Yr weithdrefn cwynion a ddefnyddir gan Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Baeau Parcio Pobl Anabl.
- Plant gydag Anableddau.





