Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwasanaeth brys y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae’r gwasanaeth hwn ond yn delio â sefyllfaoedd brys nad sy’n gallu aros tan y diwrnod gwaith nesaf.
Ffoniwch ni os ydy:
- Plentyn neu berson ifanc angen eu diogelu rhag niwed ar frys.
- Rhiant, gofalydd maeth neu blentyn angen help, cyngor neu gymorth ar frys.
- Gofalydd neu oedolyn sydd mewn perygl (y rheiny sydd â phroblemau iechyd y meddwl, anableddau corfforol neu ddysgu neu bobl hyn) angen help ar frys.
Nid ydym yn gallu helpu os:
- Gall y sefyllfa aros tan y diwrnod gwaith nesaf, heb risg o niwed.
- Ydyw’n ddiwrnod gwaith. Nid ydym ar gael felly cysylltwch â’ch Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.
- Ydyw’n argyfwng meddygol – rhaid i chi ffonio’ch meddyg neu ambiwlans.
Pwy sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth?
- Pobl sy’n byw ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, sydd angen help ar frys gan Wasanaethau Cymdeithasol, os ydynt eisoes yn derbyn ein gwasanaethau neu beidio.
- Unrhyw un sy’n galw ar ran rywun arall, os ydyw’n broffesiynolwr, perthynas, ffrind neu ofalydd.
Pryd ydy’r gwasanaeth ar gael?
Mae’r gwasanaeth brys allan o oriau yn gweithredu pan fo swyddfeydd Gwasanaethau Cymdeithasol eraill ar gau. Gallwch ond ei gysylltu ar y ffôn neu ffacs.





