Pobl ifanc - gwybodaeth a chyngor

Youth Information Service Logo

Beth yw’r Cynllun Cerdyn C?
Mae’n brosiect fydd yn galluogi pobl ifanc 14-25 oed i gael mynediad i gyngor, arweiniad a dulliau atal cenhedlu yn gyflym, rhwydd a chyfrinachol. Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i siarad mewn amgylchedd anffurfiol a heb  fod yn glinigol am faterion iechyd rhywiolgyda gweithwyr proffesiynol wedi’i hyfforddi e.e. clybiau ieuenctid, canolfannau cymunedol, lle byddant hefyd yn medru cael cyflenwad o gondoms. Gall pobl ifanc gael cerdyn-c drwy ymweld ag un o’r canolfannau lle bydd gweithiwr proffesiynol wedi’i hyfforddi yn sicrhau eu bod yn cael y sgiliau a’r wybodaeth y maent eu hangen i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd rhywiol cyn cael cerdyn. Nid yw’r cynllun yn ymwneud ag annog pobl ifanc i gael perthynas rywiol, fodd bynnag eu nod yw eu hannog i gael agwedd iach at iechyd rhywiol ac atal cenhedlu.

Bola Empathi
Mae’r adnodd hwn yn offer corff sy’n efelychu beichiogrwydd ac yn galluogi pobl ifanc sy’n gwisgo’r dilledyn i ‘brofi’ dros dro fwy na 20 o’r symptomau nodweddiadol ac effeithiau beichiogrwydd. Drwy’r math ymarferol o ddysgu trwy brofiad, mae gwrywod a benywod ifanc yn cael mwy o ddealltwriaeth o feichiogrwydd a’i effeithiau ar dasgau a gweithgareddau bob dydd sy’n bwysig i’w ffordd o fyw. Mae defnyddio’r Bola Empathi yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc a hefyd yn eu cymell i atal beichiogrwydd nas dymunir.

Babi Meddwl Amdano
Mae’r rhaglen Babi Meddwl Amdano yn efelychydd babi, sy’n galluogi pobl ifanc i brofi gofalu am fabi ifanc fel pe byddent yn rhieni. Mae’r rhaglen yn galluogi pobl ifanc i fynd ag efelychydd babi adre i ofalu amdano, lle mae’n rhaid iddynt fwydo, cael gwared â gwynt, siglo a newid cewyn y babi yn union fel babi go iawn. Mae’r rhaglen yn helpu pobl ifanc i ddeall y gofynion y mae babi ifanc yn ei roi ar ei rieni a’r effaith y byddai’n ei gael ar eu ffordd o fyw.

Mae’r gweithgareddau eraill sy’n rhan o’r prosiect yn cynnwys:

  • Hyfforddiant iechyd rhywiol sylfaenol

  • Hyfforddiant penodol i fechgyn a dynion ifanc

  • Amrywiaeth eang o lyfrau, gemau a fideos

  • Deunyddiau adnodd ar gyfer gweithdai

  • Pwynt o gyswllt ar gyfer cyngor a gwybodaeth

 

Manylion Cyswllt

Nicola Marshall

Sexual Health Coordinator

Arael Education Office

Aberbeeg Road

Abertillery

NP23 2EG

Tel: 01495 212244

Mobile: 07968 476297

E-Mail:  nicola.marshall@blaenau-gwent.gov.uk