Gofal cartref

Lady receiving home care

Beth yw Gofal Cartref?
Mae’r gwasanaeth Gofal Cartref yn darparu cymorth i unigolion gyda’u gofal personol e.e. ymolchi a mynd i’r ty bach, codi o’r gwely/mynd i’r gwely a pharatoi bwyd.

Nod Gofal Cartref yw sicrhau y caiff annibyniaeth pobl ei gynnal.

Gellid darparu Gofal Cartref gan staff yr Awdurdod Lleol neu’r Sector Preifat, yn dibynnu ar yr hyn sy’n ofynnol a lle mae’n ofynnol.

Pwy all dderbyn y gwasanaeth?
Gellid darparu’r Gwasanaeth i deuluoedd gyda phlant bach, ynghyd ag oedolion yn eu haeddiant eu hunain.

Pobl oedrannus yw mwyafrif y defnyddwyr gwasanaeth sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu gyda’u cymar oedrannus yn gofalu amdanynt.  Fodd bynnag, y peth pwysig yw gofyn am asesiad o’ch anghenion, i weld a allech fod yn gymwys ar gyfer cymorth.

Sut wyf yn cael asesiad?
Mae angen i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu ofyn i rywun wneud hynny ar eich rhan.  Gall hyn fod ar y ffôn, drwy lythyr neu drwy ymweld â’n swyddfa.

Os wyf i’n derbyn gwasanaeth, pa wybodaeth fyddaf i’n ei chael?
Os oes gwasanaeth i gael ei ddarparu, byddwch yn derbyn:

  • Cynllun Gwasanaeth Unigol fydd yn disgrifio fel byddwn ni’n eich helpu chi a’r amser/au a ddyrennir.
  • Enw eich Gofalydd Cartref rheolaidd.
  • Sut i gysylltu â Rheolwr eich Gofalydd Cartref.
  • Enw eich Rheolwr Gofal.
  • Sut i roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau neu’ch gofynion.
  • Beth i’w wneud os nad oes angen y gwasanaeth arnoch.
  • Sut i fynegi pryder neu wneud cwyn.
  • Faint fydd yn ofynnol i chi gyfrannu.

Alla i ddewis pwy sy’n cyfrannu Gofal Cartref?
Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o Ofal Cartref yn cael ei ddarparu gan staff yr Awdurdod Lleol ei hun.  Rydym hefyd yn defnyddio darparwyr o’r sector preifat, pob un ohonynt yn gweithio i’r un safonau rheoleiddiol â’n staff ni’n hunain – fel y gallwch ddibynnu ar wasanaeth proffesiynol, pwy bynnag sy’n ei gyflenwi.

Petai gennych unrhyw bryderon ynghylch y Gofalydd sy’n darparu’r gofal, bydd angen i chi gysylltu â’ch Trefnydd Gofal Cartref fydd yn edrych i mewn i’ch pryderon, a phetai angen newid gofalydd a fydd yn ceisio paru’r gofalydd priodol gyda chi’ch hun.

fydd yn rhaid i fi dalu?
Os darperir gwasanaeth ar eich cyfer, yn dilyn asesiad, fe fyddwn yn gweld a ydych yn gallu gwneud cyfraniad tuag at gost eich gwasanaeth.

Beth allaf i ei wneud os â pethau o chwith?
Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth, gallwch wneud un o’r canlynol:

  • Cwyno i’r Darparwr Gwasanaeth.
  • Cwyno i’ch Rheolwr Gofal.
  • Cysylltu â’r Swyddog Cwynion a leolir yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Pencadlys.

Manylion Cyswllt

C2BG
Canolfan Gyswllt
Depot Canolog
Stad Ddiwydiannol Barleyfield
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350
Minicom: (01495) 355959

E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk



Gwasanaethau Cymdeithasol (Pencadlys)
Llys yr Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffon: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285

E-bost : social.services.complaints@blaenau-gwent.gov.uk