Croeso
Mae Cefnogi Pobl yn fenter ar ran y Llywodraeth a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2003. Mae’n anelu i adnabod, darparu ac ariannu gwasanaethau cymorth sydd yn berthnasol i dai o ansawdd i bobl archolladwy i’w galluogi hwy i fyw’n annibynnol yn y cartref cyhyd ag y maent yn dymuno gwneud hynny neu maent yn medru gwneud hynny. Mae Cynhorthwy Pobl yn ategu gwasanaethau gofal sydd eisoes yn bodoli eisoes yn bartneriaeth rhwng y cyngor, pobl efallai fydd angen y gwasanaethau a’r asiantaethau sydd yn darparu ac yn cynorthwyo’r rhaglen.
Mae Tîm Cefnogi Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ariannu ystod eang o wasanaethau cefnogi tai, gan gynnwys cyngor cyffredinol a chwnsela, cyllido a datblygu sgiliau bywyd. Os ydych yn credu eich bod chi neu rywun i chi yn ei adnabod yn medru cael budd o’r ardaloedd yma ac eraill, yna cysylltwch â ni neu porwch y safle we yma i ddarganfod rhagor am ein gwasanaethau.
Amdanom ni
Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi sefydlu tîm Cynhorthwy Pobl sydd yn gyfrifol am weinyddu Grant Cefnogi Pobl ac adolygiad o’r holl gynlluniau sydd yn derbyn arian o’r grant.
Rydym yn cynhyrchu Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl, comisiynu gwasanaethau cynorthwyo pobl newydd ac yn gweinyddu cynllun cymorth arnofiol sydd wedi ei wneud i fyny o asiantaethau. Cyfanswm cyllideb y gwasanaethau Cefnogi Pobl yn y fwrdeistref sirol yw £1.8 miliwn, ac mae’n cynnwys y Grant Refeniw Cefnogi Pobl sydd yn cael ei dalu’n uniongyrchol i ddarparwyr achrededig.
Pam Cefnogi Pobl
Amcan y rhaglen Cefnogi Pobl yw galluogi pobl i sefyll mewn sefyllfa fyw annibynnol, gan osgoi gofal sefydliadol megis ysbyty, carchar neu mewn sefyllfa eithafol, bywyd ar y strydoedd. Mae hefyd yn anelu i helpu pobl mewn gofal sefydliadol i symud i gartref mwy annibynnol a sefydlog yn y gymuned.
Daeth y rhaglen yn weithredol ym mis Ebrill 2003. Fe rhesymoledd yr arian a oedd cyn hynny yn cael ei gyflwyno ar sail ad hoc drwy’r Budd-dal Tai ynghyd â chymryd lle nifer o ffyrdd cymhleth o dderbyn arian.
Fe gymerodd lle'r Cynllun Budd-dal Tai Trosiannol (Transitional Housing Benefit Scheme (THB)), a oedd ar yr adeg hynny brif ffordd o hawlio cefnogaeth berthnasol i dai.
Beth yw Cefnogaeth Tai Perthnasol?
Nid yw’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn ymwneud a phob math o wasanaethau y byddai pobl yn ystyried yn cael ei gefnogi. Mae’n ffocysu ar wasanaethau sydd yn perthyn i sicrhau bod pobl yn medru byw’n ddiogel ac yn sicr yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gefnogaeth wedi ei deilwra i anghenion unigol ac yn cynnwys:
- Cynnal diogelwch y breswylfa (cefnogaeth ‘sydd yn cynorthwyo'r hawliwr i gynnal diogelwch y breswylfa mae’n ei feddiannu fel ei gartref’)
- Cydymffurfiad gyda thenantiaeth (cefnogaeth ‘sydd wedi ei anelu tuag at gynorthwyo’r hawlydd i gydymffurfio gyda’r termau hynny o’i denantiaeth sydd yn ymwneud gyda: Niwsans, atebolrwydd rhenti a chynnal a chadw’r adeilad mewn cyflwr priodol ar gyfer y cyfnod y mae’r denantiaeth wedi ei osod).
- Y ddarpariaeth o gwnsela cyffredinol neu gefnogaeth arall, sydd yn cynorthwyo'r hawlydd gyda chysylltiad gydag unigolion, pobl broffesiynol neu gyrff proffesiynol sydd â diddordeb mewn sicrhau lles yr hawlydd.
- Helpu pobl archolladwy i reoli eu cyllid ac i gael mynediad i fudd-daliadau lles fel nad ydynt yn cronni dyledion rhent neu forgais ac yn collie u cartrefi.
Nid yw’r rhestr uchod yn un trwyadl ac mae modd ychwanegi ato, ond mae’n dangos y math o wasanaethau cefnogaeth yr ystyrir eu bod yn berthnasol i dai. Fodd bynnag, nid yw’r Rhaglen yn ymwneud gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol megis prydau cymunedol a gofal personol megis cael bath, a mynd i’r toiled ayb. Ac nid yw hefyd yn ymwneud gyda rheoli a chynnal a chadw ty.
Grantiau
Cafodd yr arian yr hawlir drwy’r Cynllun Budd-dal Tai Trosiannol a grantiau eraill sydd yn seiliedig ar lety eu trawsgludo i’r Rhaglen Suppporting People ar 1 Ebrill 2003. Mae yna dau fath o grantiau Cefnogi Pobl sydd wedi eu cyflwyno:
1. Grant Refeniw Cefnogi Pobl (Supporting People Revenue Grant (SPRG))
Telir y grant hwn gan amlaf yn uniongyrchol i’r darparwyr o wasanaethau perthnasol i’r Cefnogi Pobl a bydd yn ariannu unrhyw lety tymor byr megis y mathau canlynol o gynllun:
- Cynlluniau cymorth arnofio, grwpiau cleient cyffredinol megis pobl ddigartref a phobl ifanc
- Hostel i bobl ddigartref
- Llochesau ar gyfer menywod sydd yn ffoi rhag trais domestig
- Byw gyda chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc
2. Grant Cefnogi Pobl (Supporting People Grant (SPG))
Telir y grant yma yn uniongyrchol i’r cyngor ac mae’n ymwneud gyda’r costau cynorthwyol sydd wedi eu hadnabod o gynlluniau lloches, y gwasanaeth larwm cymunedol a chynlluniau gofal cymunedol. Gall Cyngor Sirol Blaenau Gwent neu ddarparwr arall, e.e. Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (Registered Social Landlord (RSL)) yn gallu darparu’r cymorth yma.
Mae’r canlynol yn wasanaethau sydd yn cael eu cynnwys gan y Grant Cefnogi Pobl:
- Llety cysgodol awdurdod lleol ac RSL.
- Gwasanaethau larwm cymunedol awdurdod lleol ac RSL
- Byw lle ceir cefnogaeth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu
- Byw lle ceir cefnogaeth ar gyfer pobl gyda materion iechyd meddwl
Bydd yr holl gynlluniau sydd yn cael eu hariannu gan y grantiau Supported People yn amodol i adolygiad cychwynnol a pharhaol o’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu. Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr angen am y gwasanaeth ac yn sicrhau bod y cymorth a ddarperir o ansawdd dda.
Beth yw’r Gwasanaeth Cefnogaeth Arnofio?
Mae Cymorth arnofio yn darparu gwasanaethau cefnogaeth tai perthnasol (nid gwasanaethau gofal) i bobl, yn eu galluogi i fyw’n annibynnol o fewn y gymuned. Mae’r term ‘arnofio’ yn cyfeirio at y ffaith bod y gefnogaeth dros dro ac wedi ei ddylunio i gael ei ddarparu cyhyd a’i fod angen - am rhai wythnosau neu rhai misoedd, gan ddibynnu ar anghenion y person.
Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim ac mae ar gael i drigolion Blaenau Gwent.
Pa fath o gefnogaeth mae’n ei ddarparu?
Gall Cefnogaeth Arnofio ddarparu help a chyngor mewn pob math o ardaloedd. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Cyllidebu a rheolaeth ariannol
- Ôl-ddyledion rhent a dadfeddiant
- Cymorth sefydlu cartref ac ailgyfanheddiad
- Sgiliau bywyd a bod yn annibynnol yn y cartref
Cael Mynediad I’r Gwasanaeth
Cyhyd â bod y person yn preswylio ym Mlaenau Gwent ac yn angen cefnogaeth am gyfnod cyfyngedig o amser yna maent yn gymwys i wneud cais am y gwasanaeth. Gellir derbyn cyfeiriadau oddi wrth y Rheolwr yn y Tîm Arnofio Cefnogi Pobl. Gall person gael ei gyfeirio gan asiantaeth /fudiad neu gall gyfeirio ei hunan.
Bydd y Rheolwr Cefnogaeth Arnofio yna’n cyflwyno’r cyfeiriad i’r Darparydd Gefnogaeth berthnasol. Mae gan Flaenau Gwent 6 Darparydd cefnogaeth sydd yn cynnig cefnogaeth drwy’r Gwasanaeth Cefnogaeth Arnofio.
Am wybodaeth bellach ynglyn â’r Gwasanaeth Cefnogaeth Arnofio, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl Supporting People Operational Plan (SPOP)
Bob blwyddyn, rhaid i Gyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent gyflwyno Cynllun Cefnogi Pobl i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r cynllun yn darparu gwybodaeth ar y cyflenwad cyfredol o gymorth sy’n berthnasol i lety o fewn y Fwrdeistref Sirol a hefyd yn adnabod anghenion y dyfodol o bobl archolladwy. Mae’r cynllun yn ymddwyn fel dogfen rwymol ar gyfer arian ychwanegol i’n galluogi ni i gyflwyno gwasanaethau newydd i gwrdd ag anghenion y dyfodol neu i ariannu ail fodelu gwasanaethau sydd yn bodoli eisoes i gwrdd â’r anghenion newidiol.
Mae’r SPOP wedi ei gysylltu gydag amcanion a nodau llety wedi ei gynorthwyo sydd wedi ei gynnwys yn y Strategaeth Tai a’r Strategaeth
Ddigartrefedd a pholisïau a strategaethau lleol a rhanbarthol eraill.
Amcanion y Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl
I sefydlu Cynllun sydyn gosod allan blaenoriaethau'r gwasanaethau Cefnogi Pobl.
I dystiolaethu angen na sydd wedi ei gwrdd, gan ddefnyddio gwybodaeth fwy diweddar ar faterion demograffig sydd wedi eu casglu o nifer o ffynonellau gan gynnwys Data Mapio Anghenion Gwent.
I gysylltu'r Rhaglen Cefnogi Pobl gyda nodau ac amcanion llety gyda chymorth sydd wedi eu gosod allan yn y Strategaeth Ddigartrefedd pum mlynedd er mwyn:
- Darparu gwasanaethau llety a chefnogaeth i bobl ddigartref a phobl sydd o bosib yn ddigartref.
- Atal digartrefedd drwy’r ddarpariaeth o lety a chymorth priodol.
- Hyrwyddo gallu pobl i fyw’n annibynnol a chynnal eu tenantiaethau.
I amlygu darpariaeth Cefnogi Pobl ar sail ddaearyddol o fewn Blaenau Gwent.
I amlinellu'r perthnasedd strategol o’r prosiectau ar gyfer pobl sydd yn byw ym Mlaenau Gwent.
I amlygu cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yma drwy’r Tîm Cefnogi Pobl ac i fapio'r ffordd ymlaen i ddatblygu’n ymhellach y rhaglen ym Mlaenau Gwent, gan gynnwys:
- Canfyddiadau adolygiadau gwasanaethau
- Ail fodeli gynlluniau a blaenoriaethau comisiynu
- Paratoi ar gyfer trosglwyddiad gwasanaethau SPRG o Lywodraeth Cynulliad Cymru i’r Awdurdod Lleol.
I amlygu ardaloedd o weithio ar y cyd a chydweithio partneriaeth gan gynnwys datblygiad a chomisiynu gwasanaethau gydag awdurdodau cyfagos.





