Cynllun Cyfathrebu

Communications Diagram

Mae’r Tîm Datblygu Gweithlu yn annog defnyddio e-bost lle bynnag sy’n bosibl ar gyfer pob cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda phartneriaid.  Mae’r holl aelodau cyfredol yn defnyddio e-bost.  Fodd bynnag, medrwn drefnu anfon copïau caled drwy’r post os oes angen hyn a medrir cysylltu â ni’n rhwydd drwy linell ffôn uniongyrchol.

Crynodeb a dolenni ble i ganfod gwybodaeth neilltuol:

  • Rhestr gyfredol o holl sefydliadau Partneriaeth, aelodau Bwrdd Rheoli’r Bartneriaeth (yn cynnwys ardaloedd y sector y maent yn eu cynrychioli).
  • Medrir cael mynediad i’r llyfryn Tîm Datblygu Gweithlu, sy’n rhestru enwau a swyddogaethau staff ynghyd â wybodaeth ar adnoddau hyfforddiant, ac offer.
  • Sut y gall staff Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydliadau Partneriaeth archebu lle ar y cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael a gweld y calendr hyfforddiant cyfredol.
  • Mynediad i gynlluniau Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP).
  • Copïau o agendâu a chofnodion digwyddiadau Partneriaeth a chyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli.
  • Canlyniadau o werthusiad y Digwyddiad Partneriaeth ac adborth o’r sesiwn ryngweithiol.
  • Data perfformiad – canlyniadau o gardiau sgôr misol cytbwys.