Cam 1 – gwneud yr ymholiad cychwynnol
Cam 2 – yr ymweliad cyntaf
Cam 3 – y cyfnod cynghori
Cam 4 – mynychu cwrs paratoi
Cam 5 – gwneud cais
Cam 6 – paratoi ac asesu
Cam 7 – diwedd y broses asesu
Cam 8 – y panel mabwysiadu
Cam 9 – eich paru chi â phlentyn
Cam 10 – lleoli plentyn
Cam 11 – y gorchymyn mabwysiadu
Cam 1 – gwneud yr ymholiad cychwynnol
Yn gyntaf cysylltwch ag asiantaeth fabwysiadu’ch awdurdod lleol, ym Mlaenau Gwent y cyswllt yw:
Tîm Mabwysiadu
Gwasanaethau Cymdeithasol
7 Stryd y Bont
Glyn Ebwy
NP23 6EY
Ffôn: (01495) 355753 neu 355764
Ebost: adoption@blaenau-gwent.gov.uk
Gallwch ofyn am gael siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol neu ofyn yn syml am becyn gwybodaeth. Os yw ar gael ar y pryd, gallwch siarad â gweithiwr cymdeithasol yn y maes mabwysiadu ynghylch eich diddordeb neu fe all rhywun roi galwad ffôn i chi’n hwyrach. Anfonir pecyn gwybodaeth atoch.
Cam 2 – yr ymweliad cyntaf
Wedi i chi ddarllen ac ystyried y pecyn gwybodaeth ac eisiau siarad mwy am y posibilrwydd o fabwysiadu, a fyddech gystal, os gwelwch yn dda, â chysylltu â ni yma yn Adran Tîm Mabwysiadu Blaenau Gwent ac os cytunwch, bydd gweithiwr cymdeithasol o’n tîm mabwysiadu yn cysylltu â chi yn dilyn eich ymholiad ac yn cynnig trefnu ymweld â chi. Mae’r ymweliad hwn yn rhoi cyfle i chi gael mwy o wybodaeth am fabwysiadu a’r broses a’r hyn fydd yn digwydd os penderfynwch chi fynd yn eich blaen.
Cam 3 – y cyfnod cynghori
Os, wedi clywed mwy am fabwysiadu gan y gweithiwr cymdeithasol, ydych chi â diddordeb i fynd gam ymhellach am eich bod yn credu bod mabwysiadu yn iawn i chi, yna bydd y gweithiwr cymdeithasol ym maes mabwysiadu yn trefnu ymweliad cynghori gyda chi. Weithiau golyga hyn un neu ddau ymweliad ond weithiau gallai olygu ychydig yn fwy. Mae’r ymweliadau cynghori yn rhoi cyfle i chi drafod gyda’r gweithiwr cymdeithasol yr hyn y dymunwch chi gael o fabwysiadu a beth deimlwch chi y gallwch chi gynnig i blentyn ac fe fydd yn eich helpu i fod yn siwr mai dyma sydd yn iawn ar eich cyfer chi. Bydd yn caniatáu i chi a’r gweithiwr cymdeithasol ystyried materion sy’n ymwneud â mabwysiadu yn fwy manwl ac yn arbennig yng nghyd-destun eich amgylchiadau chi.
Yna bydd y gweithiwr cymdeithasol yn ysgrifennu adroddiad cynghori ac yn trafod hwn gyda rheolwr y tîm mabwysiadu, yn seiliedig ar yr adroddiad cynghori a’r wybodaeth gychwynnol; bydd y rheolwr tîm wedyn yn gwneud penderfyniad a fydd yr asiantaeth yn eich gwahodd i wneud cais. Weithiau gellid gwneud penderfyniad i geisio gwybodaeth bellach cyn bwrw ymlaen, er enghraifft gwneud gwiriad iechyd cynnar, ceisio tystlythyrau neu geisio mwy o wybodaeth oddi wrth asiantaethau eraill.
Cam 4 – mynychu cwrs paratoi
Dylid neilltuo i bob darpar ymgeisydd gyfle i fynychu cwrs hyfforddiant sy’n paratoi ar gyfer mabwysiadu. Disgwylir yn gyffredinol fod pob darpar ymgeisydd yn mynychu’r hyfforddiant hwn. Mae’r cyrsiau hyfforddiant ar gael ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn ac maent yn cynnwys 3 diwrnod llawn o sesiynau, fel arfer o ddydd Gwener i ddydd Sul. Mynychir y sesiynau gan eraill sy’n ystyried dod yn rhieni sy’n mabwysiadu. Mae’r hyfforddiant yn sôn yn fanwl am y mathau o blant sydd angen cartrefi a’r sialensiau y maent hwy a’u teuluoedd sy’n mabwysiadu yn eu hwynebu.
Cam 5 – gwneud cais
Os yw’r asiantaeth yn penderfynu ei bod yn briodol, a chwithau’n dymuno bwrw ymlaen, yna fe’ch gwahoddir i wneud cais i gael eich asesu fel darpar riant sy’n mabwysiadu. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn llanw ffurflen gais gyda chi a dyma fydd cychwyn y broses fabwysiadu. Os penderfynwch chi fwrw ymlaen gofynnir i chi roi caniatâd i wiriadau gael eu gwneud gan yr heddlu a’r awdurdod lleol. Gallai cael gwiriadau wedi eu gwneud arnoch fod yn ddychrynllyd o anodd. Ond mae’n werth cofio bod yn rhaid i asiantaethau gyflawni’r gwiriadau hyn er mwyn eithrio unrhyw un sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol, megis trais neu droseddau yn erbyn plant.
Gofynnir i chi hefyd gael prawf meddygol gyda’ch Meddyg Teulu.
Cam 6 – paratoi ac asesu
Os derbynnir eich cais, fe fyddwch yn cychwyn ar gyfnod hwy o baratoi ac asesu, gan weithio mewn partneriaeth gyda’ch gweithiwr cymdeithasol. Mae cyfnod paratoi yn amser pan allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth fanylach am fabwysiadu, a meddwl yn ddwys ynghylch gwneud ymrwymiad oes i blentyn. Rhan o waith yr asiantaeth yw rhoi llawer o wybodaeth i chi am fabwysiadu, gan gynnwys y mathau o blant sydd ar gael yn eich ardal.
Mae gennych ran hanfodol ar yr adeg hon. Mae’r wythnosau hyn yn gyfle i chi edrych yn onest ar yr hyn rydych chi eisiau allan o fabwysiadu a’r hyn allwch chi gynnig i blentyn sy’n aros am gael ei fabwysiadu (rhai ohonynt yn gallu bod yn eithaf anodd). Bydd gennych amser i feddwl am yr holl faterion pwysig. Beth yw anghenion plentyn gaiff ei fabwysiadu? Beth yw’ch cryfderau a’ch gwendidau chi fel darpar ymgeisydd mabwysiadu yn debygol o fod? Allwch chi wneud y math o ymrwymiad fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd plentyn?
Tra rydych yn dysgu am fabwysiadu oddi wrth yr asiantaeth, bydd yr asiantaeth yn dechrau asesu’ch addasrwydd i fabwysiadu drwy adeiladu proffil trwyadl ohonoch chi. Adwaenir hyn fel yr asesiad neu ‘Ffurflen F’. Bydd gweithiwr cymdeithasol o’r asiantaeth yn ymweld â’ch cartref ar sawl achlysur ac yn gofyn cwestiynau manwl i chi am eich cefndir teuluol, eich plentyndod a’ch amgylchiadau presennol. Os ydych yn gwneud cais fel cwpl, bydd y gweithiwr cymdeithasol eisiau’ch gweld chi gyda’ch gilydd ac yn unigol. Bydd yn rhaid i chi yn ogystal gael archwiliad meddygol llawn gyda’ch Meddyg Teulu, a gofynnir i chi ddarparu lleiafswm o dri chanolwr personol.
Mae’r broses asesu yn feichus, gall deimlo’n fusnesgar a fe gymer sawl mis i’w chwblhau. Ond mae rhesymau da paham y gwneir ymchwiliadau trwyadl. Mae mabwysiadu am oes, ac mae’n rhaid i’r asiantaeth wneud yn siwr eich bod yn addas ar gyfer y gwaith. Cyn bwysiced, mae’n rhaid i chi fod yn bendant y gallwch wneud llwyddiant ohoni.
Cam 7 – diwedd y broses asesu
Ar ddiwedd y broses asesu, byddwch chi a’r gweithiwr cymdeithasol wedi gweithio gyda’ch gilydd i gynhyrchu adroddiad asesu ‘Ffurflen F’. Mae’r adroddiad yn cynnwys asesiad manwl ohonoch chi fel darpar ymgeisydd mabwysiadu, ynghyd â chanlyniadau’r prawf meddygol, gwiriadau’r heddlu a’r awdurdod lleol a’ch canolwyr personol. Rhan allweddol o’r adroddiad yw i chi benderfynu pa fath o blentyn neu blant y teimlwch chi y gallwch eu mabwysiadu. Allech chi, er enghraifft, edrych ar ôl plentyn ag anhawster corfforol neu anhawster dysgu? Pa ystod oedran fyddech chi’n ei ystyried? A faint o blant fyddech chi’n barod i’w cymryd?
Mae gennych hawl i weld y rhan fwyaf o’r adroddiad asesu (ac eithrio’r tystlythyrau a’r adroddiad iechyd) ac fe gewch gyfle i wneud sylwadau ar yr hyn a ysgrifennwyd.
Cam 8 – y panel mabwysiadu
Unwaith y bydd yn gyflawn a’ch sylwadau wedi eu hychwanegu, mae’r adroddiad asesu yn mynd ymlaen at banel mabwysiadu - grwp o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol eraill a phobl annibynnol gan gynnwys cyn-rieni sydd wedi mabwysiadu ac oedolion gafodd eu mabwysiadu. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn mynychu’r panel i ateb unrhyw gwestiynau gan aelodau’r panel. Gwahoddir chi i ddod i gwrdd â’r panel ond chi piau’r dewis. Unwaith y byddant wedi ystyried yr adroddiad, bydd y panel yn argymell a ddylech gael eich cymeradwyo fel rhiant sy’n mabwysiadu. Fel arfer cewch eich hysbysu o argymhelliad aelodau’r panel ar yr un diwrnod. Yn seiliedig ar argymhelliad y panel, bydd yr asiantaeth wedyn yn penderfynu p’un ai i’ch cymeradwyo neu beidio o fewn tuag wythnos i gyfarfod y panel.
Cam 9 – eich paru chi â phlentyn
Unwaith rydych wedi’ch cymeradwyo, bydd yr asiantaeth yn dechrau ystyried a oes plant yn aros am gael eu mabwysiadu’n lleol allent gael eich paru gyda chi. Mewn rhai achosion gallai’r asiantaeth fod â phlentyn mewn golwg ar eich cyfer a byddai’r broses hon yn dechrau’n gynt (ond nid cyn i chi gael eich cymeradwyo). Bydd eich asiantaeth yn cychwyn y broses baru drwy edrych ar broffiliau plant rydych chi wedi cael eich cymeradwyo i’w mabwysiadu gan y panel mabwysiadu.
Ym Mlaenau Gwent rydym yn aelod o gonsortiwm mabwysiadu, dyma bartneriaeth o asiantaethau mabwysiadu awdurdodau lleol eraill ac mae’n cynnwys Torfaen a Sir Fynwy. Golyga hyn, unwaith y caiff ei chymeradwyo, bydd y broses o chwilio am blentyn addas yn digwydd yn lleol ac o fewn ardaloedd yr awdurdodau partner. Os, wedi tri mis, na ddeuir o hyd i blentyn addas, yna cewch y dewis o gael eich rhoi ar y Gofrestr Fabwysiadu Genedlaethol fydd yn dechrau ystyried plant addas ar draws y DU.
Cam 10 – lleoli plentyn
Unwaith y bydd plentyn neu blant wedi cael eu hadnabod fel rhai posibl ar eich cyfer chi, fe gewch wybodaeth lawn am eu cefndir ac, os ydych yn dymuno bwrw ymlaen, fe gewch gwrdd â’r plentyn neu’r plant. Os ydych chi gyd yn cytuno, ac wedi cyfnod graddol o gyflwyno, fe ddaw eich plentyn neu’ch plant mabwysiedig i fyw gyda chi a dod yn rhan o’ch teulu newydd. Cofiwch, nid ydych ar eich pen eich hun nawr - bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gallu cynnig cymorth a chyngor wedi’r lleoliad, a bydd yn gyfrifol am gadw mewn cysylltiad gyda chi gyd tan i’r broses gael ei chwblhau’n derfynol. Dylech siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol ynghylch pa wasanaethau cymorth sydd ar gael yn eich ardal wedi i chi fabwysiadu. Gallai fod angen i’ch plentyn hefyd gadw cysylltiad â’i deulu biolegol, a thrafodir hyn yn llawn gyda chi cyn i chi benderfynu bwrw ymlaen.
Cam 11 – y gorchymyn mabwysiadu
Pan yw’r plentyn a fabwysiadwyd gennych wedi ymgartrefu yn eich teulu, byddwch yn gallu gwneud cais i’r llys i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud. Unwaith y gwneir y gorchymyn, mae’r holl hawliau a’r cyfrifoldebau fu’n wreiddiol yn nwylo’r rhieni biolegol bellach yn cael eu trosglwyddo i chi.




