Cerbydau wedi eu gadael

Abandoned Vehicle Photo

Mae cerbyd sydd wedi ei adael yn un lle nad oes gan y perchennog unrhyw fwriad o ddychwelyd.  Mae gan yr Adran Iechyd yr Amgylchedd bwerau i symud cerbydau sydd wedi eu gadael a mynnu cael eu had-dalu am y costau os daw’r perchennog i’r fei ar ôl i’r cerbyd gael ei symud. 


Os hoffech roi gwybod i ni am gerbyd sydd wedi ei adael er mwyn ein caniatáu ni i ymateb i’ch cwyn yn gyflym ac effeithlon, gofynnwn i chi i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

(a)   A oes gan y cerbyd ddisg treth ffordd ddilys?

(b)   Disgrifiad o’r cerbyd gan gynnwys -  rhif cofrestru, registration number, colour, gwneuthurwr y car a’r model

(c)   Disgrifiad  manwl gywir o leoliad y cerbyd gan ddefnyddio’r canlynol fel canllaw

    

  • tu allan i annedd penodol
  • yn y blaen neu’r tu nôl
  • defnyddiwch dirnodau lleol
 

Manylion Cyswllt

I adrodd am gerbydau sydd wedi eu gadael ffoniwch C2BG ar (01495) 311556.

Os oes hysbysiad wedi ei roi ar eich cerbyd neu i hawlio cerbyd ffoniwch (01495) 357813 os gwelwch yn dda.
  

E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk



I adrodd am gerbyd na sydd wedi ei drethu yna cysylltwch gyda’r DVLA ar 08000 325 202 neu e-bostiwch hwy ar:
   

E-bost : un.licensed.use@dvla.gsi.gov.uk