Chwiliadau Awdurdod Lleol
Beth yw Ffioedd Tir Lleol?
Dechreuwyd y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan y Ffioedd Tir Lleol dros 70 mlynedd yn ôl gan bobl a oedd yn prynu tir ac eiddo fel na fyddent hwy, neu perchnogion y dyfodol, yn cael eu dal gan oblygiadau (neu ffioedd) y byddai’r Awdurdod Lleol yn medru eu gweithredu megis:
- Cytundebau/caniatad cynllunio
- Rhybuddion Gorfodi
- Grantiau
- Cytundebau Prif Ffyrdd
- Gorchymynion Diogelu Coed
- Ffioedd ariannol
Mae’r Awdurdod Lleol yn
- Cynnal y Gofrestr o Ffioedd Tir Lleol
- Cynnal Chwiliadau Awdurdod Lleol
- Chwiliadau Personol
| LLC1 yn unig | £6.00 | ||
| CON 29 | Preswyl | Tir Masnachol | |
| Rhan 1 – Ymholiadau Safonol | |||
| (a) | Un llain o ddaear | £79.00 | £94.00 |
| (b) | Pob Llain Ychwanegol | £12.00 | £12.00 |
| Rhan II – Ymholiadau Opsiynol | |||
| (a) | Pob ymholiad wedi’i argraffu | £ 9.00 | £ 9.00 |
| (b) | Pob ymholiad ychwanegol | £13.00 | £13.00 |
Cyfanswm y tâl ar gyfer Chwiliad Safonol heb unrhyw ymholiadau ychwanegol yw £85.000 a’r ffi am chwiliad a wneir ar Eiddo Masnachol neu Dir yw £90.00.
Bydd Chwiliadau Awdurdod Lleol ond yn cael eu derbyn gyda’r ffi cywir, 2 gopi o LLCI, 2 gopi o CON29 (os yn berthnasol) a 2 gopi hefyd o gynllun lleoliad safle.




