Er mwyn caniatáu i’r farchnad dai weithio’n effeithiol mae annedd yn aml yn cael ei adael yn wag gan berchnogion. Gall hyn fod o ganlyniad i resymau amrywiol, gan gynnwys trafferthion ariannol a pherchnogaeth neu ddadlau ynghylch etifeddiaeth.
Mae gan y Tîm Iechyd Amgylcheddol bwerau penodol i ddelio gydag anheddau o’r fath, yn enwedig os ydynt yn dechrau dadfeilio.
Rydym o hyd yn delio gyda phroblemau megis lleithder treiddiol a achosir gan ddiffyg sydd yn rhan o annedd cymydog, annedd sydd â mynediad anawdurdodedig neu sbwriel sydd wedi ei ollwng yng ngardd annedd gwag.
Os oes gennych bryderon ynghylch unrhyw un o’r materion hyn neu os oes gennych gwestiynau penodol am annedd gwag, cysylltwch os gwelwch yn dda gydag aelod o’r Tîm Iechyd Amgylcheddol ar (01495) 355054.





