Rheoli llygredd - dwr


Mae swyddogion o’r Tîm Rheoli Llygredd yn cymryd samplau o wahanol ffynonellau o ddwr yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio. Rydym o samplu’r canlynol yn gyson:

Cyflenwadau Dwr Preifat

Ym Mlaenau Gwent mae yna 34 cyflenwad dwr preifat. Caiff y rhain eu samplu a’u dadansoddi er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Cyflenwadau Dwr Preifat 1991. 

Pwll Nofio a Sbaon

Caiff samplau eu cymryd o byllau nofio a sbaon mewn Canolfannau Hamdden a phyllau hydro-therpai bedair gwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau fod y prosesau diheintiad sydd yn cael eu defnyddio yn trin y dwr yn effeithiol.

Ceginau Ysbytai a Chynhyrchwyr Bwyd

Caiff samplau eu cymryd oddi wrth brif gynhyrchwyr bwyd yr ardal ac o geginau ysbytai er mwyn sicrhau fod y cyflenwad dwr yn ddiogel i’w ddefnyddio.