Mae Rhan IV o Ddeddf Amgylcheddol 1995 yn gofyn i bob awdurdod lleol i adolygu'r ansawdd aer yn ei ardal o dro i dro. Y prif nod yw dod o hyd i ardaloedd lle mae’r ansawdd aer yn annhebygol o gwrdd â’r amcanion sydd wedi eu rhagnodi yn Rheoliadau (Cymru) Ansawdd Aer 2000 a Rheoliadau (Cymru) (Diwygio) Ansawdd Aer 2002.
Dechreuodd y broses o adolygiad ac asesiad parhaus gyda’r adroddiad cyntaf yn cael i lunio gan y Cyngor ym 1999.
Casgliad yr adroddiad ydoedd bod y tebygolrwydd fod amcanion ansawdd aer ar gyfer unrhyw un o’r saith llygrydd yn cael eu rhagori yn ddibwys.
Ym 2003, ymgymerwyd ag Asesiad Ddiweddaru a Sgrinio pellach. Gan ddefnyddio’r data ychwanegol a gasglwyd yn y cyfnod rhwng yr adroddiadau cynt, daethpwyd i’r casgliad fod y tebygolrwydd o ragori Amcanion Ansawdd Aer ar gyfer unrhyw un o’r saith llygrydd yn ddibwys.
Ers 2003 rydym wedi parhau i fonitro ansawdd aer ym Mlaenau Gwent gyda’r adroddiad diweddaraf yn ymdrin â 2005.






