Ma gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent bwerau statudol i ymgymryd â dyletswyddau swyddog lles ac iechyd anifeiliaid o fewn yr ardal, fel y’u cynhwysir o fewn Deddf Iechyd Anifieiliaid 1981 a 2002, a’r Ddeddf Amaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968, a Deddf Cymunedau Ewropiaidd 1972 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006, ynghyd â deddfwriaeth perthnasol.
Mae gwaith y Swyddogion Lles Anifeiliaid yn ymdrechi i gydymffurfio’n effeithiol gyda’n dyletswyddau i gyfrannu tuag at amgylchedd diogel, iach a theg ac i fonitro a dylanwadu ar driniaeth anifeiliaid a gan orfodi safonau cymwys lle bo hynny’n briodol.
Dylid ystyried lles pob anifail, fferm, sw a chyfaill, yn nhermau'r pum rhyddid sydd yn cael eu hargymell gan Gyngor Lles Anifail Ffarm, y rhain yw:
- Rhyddid rhag newyn a syched
- Rhyddid rhag bod yn anghysur
- Rhyddid rhag poen, niwed neu afiechyd
- Rhyddid i fynegi ymddygid normal
- Rhyddid rhag ofn ac aflonyddwch
Bydd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid o’r Adran Iechyd yr Amgylchedd yn hyrwyddo ac yn gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid trwy gymryd i ystyriaeth faterion lles ac mewn gweithrediadau dydd i ddydd mewn modd teg a chytbwys yn unol â’r Polisi Gorfodaeth a gwaith cyswllt gyda Swyddfa Prif Filfeddyg ac Arolygaeth Wledig Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Gwasanaeth Milfeddyg Gwladol, awdurdodau lleol, asiantaethau, grwpiau lles gwirfoddol, y gymuned amaethyddol a phreswylwyr y Fwrdeistref.






