Crynodeb o’r Drwydded
Er mwyn rhedeg llety cwn neu gathod, yn gyfreithiol mae angen i chi gael trwydded oddi wrth yr awdurdod lleol. Nodir nifer y cwn a/neu gathod y gellir eu lletya yn y drwydded ynghyd ag amodau penodol eraill.
Pwy sy’n Gallu Ymgeisio?
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 mlwydd oed a heb fod wedi’i diarddel:
- rhag cadw sefydliadau preswyl i anifeiliaid yn ôl Deddf Sefydliadau Preswyl i Anifeiliaid 1963
- rhag cadw sefydliad marchogaeth yn ôl Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970
- rhag cadw siop anifeiliaid anwes yn ôl Deddf Siopau Anifeiliaid Anwes 1951
- rhag cael gwarchodaeth o anifeiliaid yn ôl Deddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954
- rhag cadw neu berchen ar anifeiliaid, y gallu i ddylanwadu ar sut caiff anifeiliaid eu cadw, rhag masnachu anifeiliaid neu drosglwyddo neu fod yn rhan o drosglwyddo anifeiliaid yn ôl Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon
Oes rhaid i mi dalu ffi ymgeisio?
Oes. Edrychwch ar Ffioedd a Chostau.
Sut bydd fy nghais yn cael ei brosesu?
Wrth benderfynu os caiff trwydded ei roi ar gyfer cadw sefydliad preswyl i anifeiliaid gan unrhyw berson ar unrhyw safle, bydd angen i awdurdod lleol ystyried y canlynol (ond heb effeithio ar eu disgresiwn i wrthod trwydded am resymau eraill) a bod yn hapus y gellir eu bodloni;
- bod yr anifeiliaid ar bob adeg yn cael eu cadw mewn lle addas o ran adeilad, maint y llety, nifer y preswylwyr, cyfleusterau ymarfer corff, tymheredd, goleuo, awyriad a glendid;
- bod yr anifeiliaid yn cael digon o fwyd, diod a lle cysgu addas, yn cael digon o ymarfer corff, a (fel bo angen) bod rhywun yn edrych arnynt ar ysbeidiau priodol;
- bydd pob rhagofal yn cael ei gymryd i atal a rheoli’r lledaeniad ymhlith yr anifeiliaid o glefydau heintus, gan gynnwys darparu cyfleusterau ynysu digonol;
- bydd camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu’r anifeiliaid mewn achosion o dân neu argyfwng arall;
- bydd cofrestr yn cael ei gadw yn cynnwys disgrifiad o unrhyw anifeiliaid a dderbynnir i mewn i’r sefydliad, y dyddiad cyrraedd a gadael, ac enw a chyfeiriad y perchennog, dylai cofrestr o’r fath bod ar gael i’w archwilio ar bob adeg gan swyddog awdurdodedig o’r awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferwr milfeddygol
Gellir cael rhagor o fanylion ynghylch asesu’r meini prawf oddi wrth Adran Iechyd yr Amgylchedd.
Faint o amser fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn cael ei weithredu?
Bydd eich cais yn cymryd hyd at 4 mis i’w brosesu a bydd caniatâd dealledig yn cael ei weithredu. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich cais wedi cael ei ganiatáu os nad ydych chi wedi clywed o’r awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau y’i targedir sef 4 mis.
Ydw i’n gallu apelio os bod fy nghais yn aflwyddiannus?
Cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynglyn ag unrhyw geisiadau am drwydded y’u dychwelwyd neu y’u gwrthodwyd.
Gall unrhyw ymgeisydd sydd wedi cael gwrthod trwydded apelio i’w Llys Ynadon lleol. Gellir cael manylion o’r hawl i apelio o Adran Iechyd yr Amgylchedd.
Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ar eu trwydded wneud cais i’w Llys Ynadon lleol fodd bynnag, byddem yn eich cynghori i gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf.
Cwynion Defnyddwyr
Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn, cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd.





