-
Beth yw Trwydded Gweithredu Cerbyd Hur Preifat?
Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli Trwyddedau Gweithredydd Cerbydau Hur Preifat?
Pwy all wneud cais?
Beth yw'r broses gais?
A allaf wneud cais ar lein?
Faint mae'n ei gostio?
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig?
Cwynion defnyddwyr
Beth yw Trwydded Gweithredu Cerbyd Hur Preifat?
Mae unrhyw un sy'n dymuno cychwyn busnes tacsi, ac yn bwriadu darparu cerbydau hur preifat, neu gyfuniad o gerbydau hur preifat a cherbydau hacnai, angen trwydded gweithredydd.
Lle bynnag y bwriadwch weithredu'r busnes ohono, gall fod angen i chi gael caniatâd cynllunio gan adran gynllunio'r Cyngor. Mae ffi am hyn a byddai angen caniatâd y landlord os ydych yn rhentu'r safle.
I benderfynu p'un ai a fedrir rhoi trwydded, mae'n rhaid cynnal gwiriad cofnod troseddol. Mae ffi'n daladwy am hynny hefyd. Mae amodau ar drwyddedau a roddir e.e. rhaid cadw cofnod o bob archeb, rhaid i gofnodion fod ar gael am chwe mis a'u dangos i swyddog o'r Cyngor neu swyddog heddlu os gwneir cais am hynny. Caiff trwyddedau eu rhoi fel arfer am uchafswm cyfnod o un flwyddyn.
Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli Trwyddedau Gweithredydd Cerbydau Hur Preifat?
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Pwy all wneud cais?
Gall unrhyw un dros 18 oed wneud cais am drwydded gweithredydd cerbydau hur preifat.
Beth yw'r broses gais?
Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'r dogfennau dilynol fel rhan o'r broses gais:-
-
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau gan bob parti
- Ffi trwydded
- Trwydded yrru
- Gwiriad Cofnod Troseddol sylfaenol neu wiriad Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu
- Tystiolaeth o ganiatâd cynllunio neu gadarnhad nad oes angen caniatâd cynllunio
- Tystiolaeth o ganiatâd landlord
Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â'r Tîm Trwyddedu a gwneud trefniadau i gyflwyno'r dogfennau uchod. Os yw'r CRB/Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yn nodi euogfarnau, yna gall y mater gael ei gyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor am benderfyniad, a fydd yn penderfynir os dylid rhoi'r trwydded.
Na, yn anffodus ni chaiff ceisiadau ar-lein eu derbyn ar gyfer y math yma o drwydded. Fodd bynnag, gallwch argraffu'r dogfennau a restrir islaw a'u llenwi a'u dychwelyd i'r Tîm Trwyddedu.
Ffurflen gais am drwydded gweithredydd cerbyd hur preifat
Amodau trwydded gweithredydd cerbyd hur preifat -
Faint mae'n ei gostio?
Mae ffi'r drwydded yn £80.
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig?
Mae'r broses gais fel arfer yn cymryd rhwng un a dwy wythnos.
Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol ar gyfer y trwyddedau hyn, h.y. os nad ydych yn clywed unrhyw beth o fewn y cyfnod penodol, ni allwch dybio'n awtomatig y caniatawyd y cais.
Cwynion defnyddwyr
Os oes gennych gwyn am unrhyw fater yn gysylltiedig â gweithgareddau tacsi trwyddedig neu heb drwydded, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01495 355961 os gwelwch yn dda
Pori yn ôl Gwasanaeth:
Trwydded Gweithredydd Cerbyd Hur Preifat
Manylion Cyswllt
Yr Adran Trwyddedu
Swyddfeydd Rhanbarthol CBSBG
Stryd Beaufort
Brynmawr
NP23 4AG
Ffôn: 01495 355961
Ffacs: 01495 355245
Gweithredir system apwyntiadau. Dylid ffonio o flaen llaw er mwyn trefnu dyddiad ac amser cyfleus i ymweld a ni os hoffech chi gyflwyno cais neu dderbyn cyngor.
Ebost : licensing@blaenau-gwent.gov.uk





