Cwestiynau am goed

Cwestiynau Cyffredin

Mae gen i goeden a warchodir. Beth ddylwn i wneud?
Mae'n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym cyn i chi wneud unrhyw waith ar goeden sydd â Gorchymyn Cadwraeth  Coed. Gallai methiant i gael caniatâd arwain at erlyn a dirwy o hyd at £20,000.

Yr eithriad yw hyn yw lle mae'r holl goeden neu ran o'r goeden wedi marw, yn marw neu'n beryglus. Yn yr achos hwn, nid oes angen caniatâd i symud y goeden farw nag i gwympo'r goeden. Byddwch angen tystiolaeth i ddangos fod y goeden wedi marw, yn marw neu'n beryglus. Yn ddelfrydol dylid ymgynghori â Swyddog Coed y Cyngor cyn gwneud unrhyw waith er mwyn gwirio fod y goeden neu ran ohoni wedi marw, yn marw neu'n beryglus. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein hadran Gorchymyn Cadwraeth Coed.   Swyddog Coed : Tel 01495 355 546

Mae coeden y mae'r Cyngor yn berchen arni yn achosi problem. Beth ddylwn i wneud?
Llenwi'r Ffurflen Ymholiad Coed ar y tudalennau hyn. Caiff hyn ei anfon yn awtomatig at Swyddog Coed y Cyngor fydd yn adolygu'r broblem a threfnu arolwg os oes angen. Dylid nodi mai dim ond am resymau diogelwch y gwneir gwaith fel arfer ac nid am broblemau megis colli golau neu dderbyniad lloeren. Edrychwch ar yr adran "Y gwaith a byddwn ac na fyddwn yn ei wneud" .
Os yw coeden mewn perygl difrifol o gwympo ac achosi anaf neu ddifrod i eiddo, ffoniwch y Swyddog Coed os gwelwch yn dda: Ffôn 01495 355 546.
Os yw'r goeden yn gysylltiedig gyda thai cymdeithasol, mae hyn yn awr yn gyfrifoldeb Tai Calon a dylai preswylwyr ffonio neu 0300 303 1717 neu e-bost info@taicalon.org.

Mae coeden fy nghymydog yn rhy uchel, beth ddylwn i wneud?
Nid yw coeden o reidrwydd yn berygl yn unig oherwydd ei bod yn fawr neu'n uchel neu oherwydd ei bod o fewn pellter syrthio o adeiladau a ffyrdd. Yn gyffredinol nid yw coed yn syrthio oherwydd eu huchder yn unig. Fel arfer mae coed yn syrthio oherwydd eu bod wedi marw neu'n marw neu gyda phroblem gyda'u gwreiddiau neu waelod. Nid oes ychwaith unrhyw ofyniad cyfreithiol i docio uchder neu ledaenu gwreiddiau a changhennau, heblaw lle mae coed yn tyfu yn ymyl priffordd.

Felly ychydig o fewn y gyfraith y gall cymydog ei wneud i ostwng uchder coed mewn gardd yn ymyl eu cartref heb gael caniatâd perchennog y goeden.
Os yw diogelwch yn fater, yna mae'n rhaid tynnu hyn i sylw perchennog y goeden. Mae gan berchennog coeden ddyletswydd i docio coed neu berthi fel nad ydynt yn achosi rhwystr neu berygl i gerddwyr a cherbydau. Enw'r gyfraith am hyn yw 'dyletswydd gofal' - dylai unigolyn gymryd gofal rhesymol i osgoi gweithredu neu ddiffyg gweithredu y gallant yn rhesymol ei ragweld fyddai'n debygol o achosi niwed. Yn achos coed, dylai perchennog coeden sicrhau fod y goeden mewn cyflwr diogel drwy ei harchwilio'n rheolaidd a thrwy gael cyngor proffesiynol gan berson cymwys os oes angen a gwneud unrhyw waith diogelwch addas a ddynodir.

Medrwn gyflenwi rhestr o ymgynghorwyr a chontractwyr coed a ddefnyddir gan y cyngor a all gynnal archwiliad iechyd a diogelwch o'r goeden/coed a rhoi dyfynbris ysgrifenedig am unrhyw weithiau priodol. Mae rhestr o Gontractwyr ac Ymgynghorwyr Coed yn lleol i'r ardal hon ar y tudalennau hyn er gwybodaeth neu edrychwch ar wefan y Gymdeithas Coedyddiaeth sy'n cynnwys manylion Contractwyr a Gymeradwywyd gan y Gymdeithas  Coedyddiaeth.

Mae coed fy nghymydog yn cuddio'r heulwen yn fy nghartref. Beth ddylwn i wneud?
Nid oes oblygiad cyfreithiol ar berchennog eiddo i docio neu symud eu coed am resymau colli golau mewn adeilad cyfagos/drws nesaf. Mae 'hawl i olau' yn anodd ei brofi a dim ond at adeiladau a golau y mae'n cyfeirio, nid gerddi a heulwen. Ni ddylid drysu hyn gyda Deddfwriaeth Perthi Uchel sy'n delio gyda 'niwsans' perthi preifat.

Gwreiddiau coed/canghennau'n gorymestyn/niwsans o goed cymdogion, feth fedraf i ei wneud?
Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i dorri uchder neu ledaenu gwreiddiau a changhennau, heblaw coed sy'n tyfu yn ymyl priffordd.

Fodd bynnag, mae gan berchennog coeden ddyletswydd i docio coed neu berthi fel nad ydynt yn achosi rhwystr neu berygl i gerddwyr a cherbydau. Yr enw cyfreithiol ar hyn yw 'dyletswydd gofal' - dylai unigolyn gymryd gofal rhesymol i osgoi gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu y gallant yn rhesymol ei ragweld fyddai'n debygol o achosi ddifrod. Yn achos coed, dylai perchennog coed sicrhau fod eu coed mewn cyflwr diogel drwy arolygu rheolaidd a chael cyngor proffesiynol os oes angen.

Yn gyffredinol, i 'niwsans cyfreithiol' ddigwydd, mae'n rhaid i ddifrod gael ei achosi gan drydydd parti a rhaid bod anghyfleustra afresymol yn cael ei achosi iddo/iddi. Gelwir hyn weithiau yn 'niwsans cyfreithadwy' neu niwsans sy'n achosi gweithredu cyfreithiol. Mae 'niwsans cyfraith gyffredin' gwreiddiau a changhennau coed sy'n croesi ffiniau yn eithriad i'r rheol yma ond nid yw'n rhaid o reidrwydd iddynt fod yn achosi unrhyw ddifrod. Yn yr achosion hyn (ac eithrio coed a warchodir h.y. coed a gynhwysir mewn Gorchymyn Cadwraeth Coed neu sydd o fewn Ardal Cadwraeth), gall cymydog docio unrhyw ganghennau sy'n gorymestyn neu wreiddiau sydd wedi ymledu heb gael caniatâd perchennog y goeden. Perchennog y goeden sydd piau unrhyw dyfiant a dorrir a dylid eu cynnig yn ôl iddynt. Nid yw'n rhaid iddynt dderbyn y toriadau gennych. Efallai y bydd yn rhaid i chi gael gwared â hwy eich hunan. Pan fyddwch yn gwneud y gwaith tocio, peidiwch â  chroesi'r llinell derfyn, un ai'n bersonol neu gydag unrhyw offer, gan y gellid ystyried hyn fel tresbasu.

Er y gall fod gennych hawl mewn Cyfraith Gyffredin i dorri unrhyw wreiddiau sy'n tresbasu, yr anhawster yw y gallech drwy dorri'r gwreiddiau wneud y goeden yn anniogel ac felly effeithio ar iechyd a sefydlogrwydd y goeden. Er nad yw hyn yn eich atal rhag ymarfer eich hawl Cyfraith Gyffredin, byddai'n sicr yn ddoeth i hysbysu perchennog y goeden am yr hyn rydych yn ei wneud er mwyn osgoi unrhyw hawliadau posibl, yn arbennig gan drydydd parti pe bai'r goeden i syrthio fel canlyniad i'ch gweithredoedd. Os profir fod y gwreiddiau wedi achosi difrod i'ch cartref h.y. difrod ymsuddiant yn gysylltiedig â choeden, yna gall perchennog y goeden fod yn atebol am gost unioni'r mater. Fel arfer caiff y math yma o ddifrod ei gyfeirio at yswirydd perchennog yr eiddo i yswirydd eiddo perchennog y goeden weithredu ar y mater. Os na all y partïon gytuno, y Llysoedd fydd yn penderfynu ar fater atebolrwydd am y difrod.

Mae coed fy nghymydog yn rhwystro ein derbyniad lloeren/teledu. Beth allaf i ei wneud?
Nid oes oblygiad cyfreithiol ar berchennog coeden i docio neu symud eu coed am resymau colli derbyniad lloeren neu deledu mewn adeilad cyfagos neu drws nesaf. Er bod trwydded deledu yn rhoi hawl cyfreithiol i chi dderbyn signal teledu, nid yw'n gwarantu derbyniad neu safon y signal darlledu.

Os ydych yn colli derbyniad teledu neu signal lloeren yn sydyn, gall hynny fod oherwydd bod nam ar eich erial teledu/dysgl loeren neu 'blwch pen set'. Yn yr achosion hyn, dylech gyfeirio at gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd.

Lle mae coeden neu dyfiant ar adeilad drws nesaf neu gyfagos yn rhwystro signal lloeren neu dderbyniad teledu, y datrysiad gorau fyddai i'r perchennog symud eu herial deledu neu ddysgl loeren i ffwrdd o'r tyfiant sy'n achosi rhwystr. Gallech hefyd ystyried defnyddio 'bwster' signal erial deledu/lloeren. Gall cyngor pellach fod ar gael am ddatrysiadau posibl gan eich cyflenwr offer neu drwy gysylltu â pheiriannydd erial teledu/lloeren annibynnol lleol.

Yng nghyswllt coed a warchodir h.y. coeden a gynhwysir mewn Gorchymyn Cadwraeth Coed a choed a gaiff eu rheoli gan y cyngor, nid ydym yn ystyried fod colli (neu anallu) i dderbyn signal lloeren/derbyniad teledu yn rheswm dilys dros wneud gwaith i goed sydd fel arall yn rhai iach a chadarn.

Manylion Cyswllt

Vaughan Lewis,

Tree Officer, Blaenau Gwent County Borough Council

01495 355 546

 

Ebost : vaughan.lewis@blaenau-gwent.gov.uk