Genesis Cymru Wales – Cychwyn Newydd ar gyfer Rhieni a Phlant
Mae Genesis Cymru Wales yn brosiect sydd yn helpu rhieni i orchfygu nifer o’r rhwystrau maent yn eu hwynebu wrth ddychwelyd i’r gweithle.
Gall gofal plant er enghraifft fod yn rhwystr mawr ar gyfer rhieni. Mae’n ddrud ac yn anodd ei ganfod yn aml. Drwy weithio’n agos gyda theuluoedd, gall y prosiect Genesis gynnig cymorth ariannol a chefnogaeth arall i rieni sydd angen gofal plant y gellir ei fforddio er mwyn iddynt gael mynediad i gyrsiau a chyfleodd gwaith.
Wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chronfeydd ariannol Strwythurol Ewropeaidd, mae Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Blaenau Gwent yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth i helpu i adeiladu dyfodol gwell ar eich cyfer chi a’ch plant.





