Mae Canolfan Plant Calon y Cymoedd yn hen Ysgol Babanod Blaenau yn cynnig:
- Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu
- Darpariaeth cylchoedd chwarae cofrestredig Cymraeg a Saesneg
- Grwpiau Rhiant a Baban
- Llyfrgell Teganau
- Sesiynau Iaith a Chwarae
- Clwb Gwyliau
- Darpariaeth Chwarae wedi’i staffio
- Cefnogaeth i Rieni
- Grwpiau cyn-geni
- Cefnogaeth ar Fwydo ar y Fron a Chlybiau Babanod.
Mae hefyd ystafell hyfforddiant yn cynnig cyrsiau hyfforddiant a datblygu.
Ariannwyd y ganolfan newydd gyda grant o £385,000 o’r Gronfa Loteri Fawr a £300,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.





