Ardal Prif Gynnwys
Gwasanaeth Gwybodaeth Plant
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Blaenau Gwent yn mynd yn hyn ... Erbyn hyn, rydym ni'n dal gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr sydd â phlant 0 - 19 oed.
Bydd enw a logo newydd ar waith cyn bo hir! Ein henw newydd fydd Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu Blaenau Gwent.
Croeso i Wasanaeth Gwybodaeth Plant Blaenau Gwent.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Plant Blaenau Gwent yn darparu gwybodaeth a chanllaw o ansawdd, am ddim, cyfrinachol, diduedd ar yr holl ystod o Wasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal plant sydd ar gael ym mwrdeistref leol Blaenau Gwent. Rydym yn cynnig cyngor ar ble mae darparwyr gofal plant, dewis y ddarpariaeth gywir i chi, sut i dalu am ofal plant a llawer mwy.
Gallwn hefyd ddarparu cyngor diduedd ar hyfforddi am yrfa mewn gofal plant, sefydlu fel darparydd a sut i gael mynediad i grantiau.
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Blant wedi ei sefydlu yng Nghanolfan Plant Canol y Cymoedd, Ysgol Babanod Hen Flaenau, Y Stryd Fawr, Blaenau, Blaenau Gwent NP13 3BN Rydym ar gael Dydd Llun - Dydd Iau 9.00 yb – 5.00 yp a Dydd Gwener 9.00yb - 4.00yp
Mae cyfleuster ateb teleffon ar gael ar gyfer gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa arferol, os byddwch yn gadael neges bydd rhywun yn dod yn ôl atoch.