Sgiliau Gwaith i Oedolion

WSFA

Beth yw Sgiliau Gwaith i Oedolion?

Prosiect yw Sgiliau Gwaith i Oedolion a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy'n gweithio gyda phobl gyflogedig ar draws Blaenau Gwent.

Nod y prosiect yw cynorthwyo pobl leol i wella eu sgiliau a'u hyder eu galluogi i fwyhau eu potensial a ran enillion a gwela ysgogiad, cynhyrchiant a sefydlogrwydd o fewn y gweithlu.

Sut y mae'r prosiect yn gweithio? 

Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent a'ch bod yn cael eich cyflogi am fwy na 16 awr, yna bydd Sgiliau Gwaith i Oedolion yn cynnig cyfarwyddyd a chymorth i'ch galluogi i ennil y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i gyflawni eich nodau gwaith.

Fel rhan o'r prosiect hwn, byddwch yn gallu cael mynediad at gyfleoedd dysgu am ddim mewn mannau lleol.  Ymhlith y cyfleoedd dysgu sydd ar gael y mae: TGCh; Gwella eich Saesneg a'ch Mathemateg:TGAU Saesneg a'ch Mathemateg; Ieithoedd; Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng; Codi a Chario; Diogelwch Bwyd, yn ogystal â chyrsiau byrion wedi'u teilwra, fel ysgrifennu adroddiadau neu gymryd cofnodion.

Byddwch hefyd yn elwa o gymorth unigol gan swyddogion dysgu a datblygu cymunedol y prosiect, yn ogystal â chynlluniau gweithredu ar ddysgu personol, datblygu sgiliau syfaenol a darpariaeth gofal plant.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Sgiliau Gwaith i Oedolion cysylltwch â

Sgiliau Gwaith i Oedolion, Canolfan Adnoddau Rasa, Heol yr Ysgol, Rasa, Glynebwy NP23 5PP

Ffôn 01495 309951