Prif nod Dysgu i'r Teulu yw helpu teuluoedd i ddysgu a chael hwyl gyda'i gilydd. Mae'n rhoi llwybr yn ôl i addysg i rieni a gofalwyr hefyd, yn ogystal â rhoi amser i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd a mwynhau gweithgareddau newydd a chyffrous.
Rhieni sy'n adnabod eu plant orau ac mae Dysgu i'r Teulu yn defnyddio'r wybodaeth honno i gefnogi teuluoedd, yn yr ysgol a gartref.
Mae manteision Dysgu i'r Teulu yn cynnwys rhannu; gweithio gyda'i gilydd fel teulu; canfod sut i gefnogi dysgu eich plentyn; cyfarfod a gwneud ffrindiau newydd; ennill cymhwyster; meithrin eich hyder i weithio gyda'ch plant.
MAE'R HOLL WEITHGAREDDAU AM DDIM! CRECHE AM DDIM AR GAEL
Mae'r cyrsiau a gynigir mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol lleol yn cynnwys:
Gweithio gyda'ch plentyn: llythrennedd/rhifedd
Dal i fyny â'r Plant mewn llythrennedd a rhifedd
Hwyl gyda Rhifau
Hwyl gyda Straeon
Amser Gyda'n Gilydd
Materion Iechyd Teuluol
Crefft i'r Teulu
Gweithdai





