Ysgol - gwybodaeth a chyngor

Image

Mae Ysgolion Cynradd wedi eu lleoli yng nghanol y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, yn darparu addysg mewn amgylchedd gofalgar; mae’r rhan fwyaf ohonynt yn darparu cyfleusterau meithrinfa a chyn-ysgol. 


Mae gan y plant hefyd y cyfle i’w dysgu yn Gymraeg yn Ysgol Brohelyg. 


Mae ysgolion uwchradd yn Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy, Nant-y-glo a Thredegar yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol mewn awyrgylch cefnogol gyda staff ymroddedig a chyfleusterau gwych. Mae yna gyfleoedd di-rif am weithgareddau allgyrsiol a diwylliannol ac fe gynhelir cysylltiadau cryf gyda masnach a diwydiant lleol drwy Bartneriaeth Addysg a Busnes Blaenau Gwent.


Mae Campws Glyn Ebwy o Goleg Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd addysg bellach gan gynnwys Lefel A. Ynghyd â chyrsiau llawn amser, mae yna gyrsiau rhan amser gyda’r nos ac opsiynau hyblyg ar gyfer myfyrwyr hyn.


Mae amrywiaeth eang o gyrsiau dydd a chyda’r nos hefyd ar gael mewn canolfannau addysg i oedolion lleol - cyrsiau cyfrifiadur, crefftau, ffotograffiaeth, ieithoedd a gweithgareddau chwaraeon. Mae Canolfannau Dysgu Agored yn gweithredu yn Abertyleri, Glyn Ebwy, Blaena, Brynmawr a Thredegar.  

Beth ydym yn ei wneud?


  Cynllunio a darparu darpariaeth addysg briodol ar gyfer dros 12,000 o ddisgyblion oedran ysgol.
  O’r boblogaeth disgyblion mae dros 2,400 yn gymwys am ac yn derbyn cefnogaeth cludiant i ac o’r ysgol.
  Mae darpariaeth bellach ar gyfer plant oedran ysgol a phobl ifanc yn cynnwys darpariaeth arbenigol a thiwtor cartref er mwyn mynd i’r afael gydag anghenion addysg, mynychu a gofynion arbenigol arall. 
  Ar gyfer myfyrwyr sydd yn mynychu sefydliadau addysg bellach ac uwch mae dros 850 o grantiau yn cael eu proses bob blwyddyn gyda dros 450 o fyfyrwyr yn gymwys am ac yn derbyn cefnogaeth cludiant.
  Mae’r Adran hefyd yn rheoli 8 o Ganolfannau Ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc.
  Mae cyfleoedd addysgol eraill yn cael eu  darparu ar gyfer y Gymuned gan y 7 Canolfan Addysg Gymunedol sydd yn cael eu rheoli gan yr Adran Addysg Gydol Oes gyda chofrestriadau ar hyn o bryd yn dros 2,000 yn dilyn 200 o Gyrsiau.

Manylion Cyswllt

General School Enquiries

Please contact

Festival House,

Victoris Business Park,

Ebbw Vale,

NP23 8ER.

Or alternatively:

E-bost : education.department@blaenau-gwent.gov.uk