Ysgol - Cynlluniau Datblygu
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynhyrchu Cynllun Addysg Sengl sydd yn cymryd lle pedwar cynllun cyfredol sydd yn ofyniad statudol: Cynllun Addysg Strategol, Cynlluniau Trafnidiaeth Ysgol, Cynllun Cymorth Ymddygiad, a’r Cynllun Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
Bydd y Cynllun Addysg Sengl yn fesur dros dro. Yn 2008 bydd pob awdurdod lleol yn cynhyrchu Cynllun Plant a Phobl Ifanc hyd yn oed mwy cynhwysfawr. Mae cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi eu selio ar ofynion deddfwriaeth sylfaenol.
Mae’r Cynllun Addysg Sengl yn ddogfen strategol, sydd yn deillio o Gynllun Cymunedol a Chynllun Corfforaethol Blaenau Gwent. Bydd y gweithredoedd manwl sydd eu hangen i gyflawni’r Cynllun yn cael eu gosod allan yn y cynlluniau gweithredol. Yn ymarferol, mae canllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod allan y cynnwys mae’n ei ddisgwyl yn y Cynllun, ond mae cryn ymdrech wedi eu gwario i sicrhau bod y cynllun yn cwrdd ag anghenion penodol Blaenau Gwent.
Bydd y Cynllun yn ymwneud gyda’r cyfnod dwy flynedd gyfan, a rhaid iddo gynnwys strategaethau ar gyfer:
- Codi safonau a gwella’r perfformiad o’r ysgolion i ni yn eu cynnal;
- Codi’r safonau o addysg ar gyfer plant a phobl ifanc na sydd wedi eu haddysgu mewn ysgol;
- Darpariaeth o lefydd ysgol a blynyddoedd cynnar;
- Darpariaeth o gefnogaeth, cyngor ac adnoddau i ysgolion i’w cynorthwyo i hyrwyddo ymddygiad positif; a chymorth i blant gydag anawsterau ymddygiad, o fewn neu du allan i’r ysgol;
- Darpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol; a
-
Datblygiad o ffocws cymunedol ar gyfer ysgolion.
Rhaid i’r Cynllun hefyd gynnwys cyfres o dargedau a oedd wedi eu cynnwys yn y cynlluniau statudol blaenorol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru a’u hail gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2007.
Mae’r Cynllun Addysg Sengl wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor.





