.jpg)
.jpg)
Mae ystod eang o gyrsiau ar gyfer oedolion ar gael mewn canolfannau amrywiol wedi eu lleoli drwy Blaenau Gwent. Mae cyrsiau yn cael eu cynnal yn ystod y dydd a gyda’r nos i geisio sicrhau bod gan bawb y cyfle i gymryd mantais o’r hyn sydd yn cael ei gynnig.
Mae cyrsiau Celf a Chrefft yn cynnwys Addurno Cacen, Tynnu Llun a Phaentio, Crochenwaith, Crefft Staenio Gwydr, Gwnïo, Trin Gwallt, Harddwch, Caligraffi, Ffotograffiaeth, Trefnu Blodau, Allweddfwrdd Cerddorol, Gitâr a llawer rhagor.
Mae cyrsiau cyfrifiadurol, yn addas ar gyfer pobl o bob lefel, ar gael yn y rhan fwyaf o ganolfannau. Mae Canolfannau Dysgu Agored hefyd yn cynnig agwedd hyblyg iawn i ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur, ar gyfnod sydd yn addas ar eich cyfer a lle y gallwch gychwyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Mae cyrsiau Addysg Cyffredinol a Hyfforddiant yn cynnwys Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch, TGAU, Tysysgrifau Cache ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu, Saesneg fel ail iaith a Hanes Teuluol.
Mae cyrsiau iaith ar gael, ar lefelau gwahanol, ar gyfer Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Darllen Gwefusau ac Arwyddiaith.
Nod y Gymuned Dysgu BiG yw cynnig ystod eang o gyfleoedd hawdd cael mynediad iddynt ar draws Blaenau Gwent.
Gwellwch eich Saesneg neu Fathemateg. Mae cyrsiau ar gael ar gyfer unrhyw un byddai’n hoffi gwella eu sgiliau. Mae pob lefel yn cael eu cynnwys o gychwynnwr i TGAU.
Mae cyrsiau Dysgu teulu yn cael eu gweinyddu mewn Ysgolion Cynradd ac mae grwpiau cymunedol yn cynnwys Cadw i Fyny gyda’r Plant mewn Saesneg, Mathemateg, Llythrennedd Teulu, Rhifedd Teulu, Llythrennedd Ariannol a Materion Iechyd.
Mae Sgiliau Allweddol Oedolion yn cynnig cyrsiau, gyda chymorth un ar un os oes angen, mewn Cyfrifiadureg, Mathemateg, Darllen ac Ysgrifennu, Sillafu, rheoli Arian, Gwneud Cais am Swydd a Gwella eich hun.





