Gofal plant

Children Early Years Sandpit

Mae dewis y math cywir o ofal plant yn benderfyniad pwysig a phersonol iawn; mae’r math gorau o ofal plant ar eich cyfer yn dibynnu ar eich sefyllfa deuluol.


Gall y mathau gwahanol o ddarpariaeth swnio’n ddryslyd hen wybodaeth ddigonol. Rydym yn anelu i sicrhau eich bod yn gallu gwneud dewis hysbysedig, gan wybod eich bod wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.

Y dewisiadau gofal plant mawr yw Gofalwyr plant, Meithrinfeydd dydd neu Glybiau plant Tu Allan i Oriau Ysgol. Yn ychwanegol, mae Grwpiau Chwarae a Meithrinfeydd yn cynnig gofal a gweithgareddau ar gyfer plant nad ydynt o oedran ysgol, yn aml am ran o’r dydd yn  unig. 

Mae’n rhaid i unrhyw ddarparydd y mae plant o dan wyth oed yn cael eu gofalu amdanynt am gyfnod o ddwy awr neu’n fwy cofrestru gyda’r Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGC) yn unol â gofynion Deddf Plant 1989.

Gellir cael manylion pellach am y safonau gofynnol oddi wrth Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Efallai y bydd rhai llefydd wedi ennill dyfarniad sicrwydd safon. Efallai y byddwch am wirio hyn gyda’r darparwyr unigol.

Mae yna amrywiaeth mawr o lefydd Gofal plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar. Gall mwy o fanylion gael eu canfod yn yr adran briodol o’r wefan yma.
Bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant yn medru cynnig cyngor a chanllaw ar yr holl faterion gofal plant.

 

 

Manylion Cyswllt

The Children's Information Service Free Phone 08000 32 33 39

E-bost : cis@blaenau-gwent.gov.uk

Ardal Cynnwys Cywir