Ardal Prif Gynnwys

Bioamrwyiaeth ar Safleoedd Ysgolion

Image
Mae bioamrywiaeth yn hanfodol oherwydd ei fod yn effeithio ar fywyd pob un ohonom yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Mae pob rhywogaeth yn cynnwys bodau dynol angen amrediad o adnoddau sylfaenol i’w cadw’n fyw ac iach. Mae bodau dynol angen ocsigen i’w anadlu, dwr i’w yfed, bwyd i’w fwyta a chysgod rhag y tywydd. Mae’r pethau byw ar ein planed yn rhoi llawer o’r pethau hyn i ni felly mae eu cadwraeth yn hollbwysig os ydym i oroesi. Mae bywyd dynol ei hunan yn dibynnu ar  y berthynas rhwng pob creadur byw a’u hamgylchedd, eto mae llawer o weithgaredd dynol yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth ar draws y byd. Ym Mhrydain mae twf datblygu trefol, dulliau ffermio dwys, cyflwyno rhywogaethau heb fod yn gynhenid, trafnidiaeth a llygredd wedi arwain at ddirywiad enfawr mewn cynefinoedd a rhywogaethau ac mewn rhai achosion ddifodiant.
  
Ni fu erioed gymaint o angen i adfer y cydbwysedd hwn mewn natur a lle’n well i gychwyn na thrwy godi ymwybyddiaeth ymysg ein cenhedlaeth iau er mwyn sicrhau gwell dyfodol.
  
Sylweddolwn yr angen i ddysgu gwerthoedd i’n plant ar gyfer iechyd a lles cynefinoedd lleol planhigion ac anifeiliaid yn ogystal â bodau dynol drwy annog defnyddio’r awyr agored i addysgu a dysgu am fioamrywiaeth. Mae tiroedd ysgol yn rhoi cyfle delfrydol i gyflwyno plant i’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth. Maent yn cynnig cyfleusterau gwych ar gyfer addysg awyr agored a all ategu gweithgareddau seiliedig ar ystafell ddosbarth ac mae Blaenau Gwent yn annog ardaloedd natur o fewn ein tiroedd ychwanegol a all ychwanegu at hyn.
  
Amcanion Blaenau Gwent:
    

  • cadwraeth a gwella bioamrywiaeth
  • codi ymwybyddiaeth ymysg athrawon a disgyblion o derm bioamrywiaeth a lefel dealltwriaeth amdano
  • cynyddu nifer y profiadau awyr agored lleol yn cynnwys cyswllt uniongyrchol gyda natur a’r rhai sy’n gweithio i ofalu amdano
  • arddangos manteision staff a disgyblion o integreiddio bioamrywiaeth i’n bywydau er mwyn hyrwyddo iechyd a lles
  • hysbysu ein disgyblion pa mor ddibynnol ydym ar rywogaethau eraill h.y. mae’n holl fwyd yn dod o bethau byw a hefyd lawer o’n dillad a’r holl bapur a phren a ddefnyddiwn
  • annog disgyblion i fwynhau’r awyr agored a chael hwyl tra’n dysgu sut i helpu’r amgylchedd

   
Mae llawer o faterion amrywiaeth yn llawer rhy fawr a chymhleth i gael eu trin o fewn amgylchedd ysgol, fodd bynnag mae’r rhain yn gamau y medrwn eu cymryd i ddiogelu ein hardaloedd ein hunain a gweithio tuag at well dyfodol. Beth am gymryd ychydig o gamau syml yn eich ysgolion i helpu cadwraeth a gwella bioamrywiaeth yn eich ardal? Dyma ychydig o bethau y medrech eu gwneud ar safle’r ysgol: 
   

  • creu dôl blodau gwyllt - bydd ardal sy’n gyfoethog mewn blodau gwyllt brodorol lleol yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt yn cynnwys pryfetach, anifeiliaid a mamaliaid
  • gadael ardaloedd glaswellt i dyfu’n dalach – bydd hyn yn rhoi gorchudd gwerthfawr i anifeiliaid megis amffibiaid, ymlusgiaid a mamaliaid yn teithio o un lle i’r llall
  • adeiladu pwll neu ardal gorsiog a’i gwella gyda phlanhigion sy’n hoffi dwr - mae darnau hir o gloddiau yn rhoi coridorau ar gyfer mamaliaid bach ac amffibiaid sy’n teithio rhwng gwahanol ardaloedd
  • creu ardal compost yn defnyddio gwastraff organig o’r ysgol, gan wneud yn sicr ei fod yn agored ac y gall adar a nadroedd defaid wneud cartrefi ynddynt
  • rhoi blychau adar, ystlumod a phryfetach o amgylch yr ysgol ar ffensys a choed a chreu man bwydo adar gyda llawer o wahanol fwyd ar gael
  • os nad oes gennych bwll, rhoddwch ddysglaid o ddwr neu fwrdd dwr i roi dwr ar gyfer unrhyw fywyd gwyllt a all ymweld.

  
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ecolegydd ar 01495 355779 neu e-bost Claire.pooley@blaenau-gwent.gov.uk neu Michelle Evans, Swyddog Cefnogaeth Ysgol, Cynllunio a Datblygu 01495 355416 neu  michelle.evans@blaenau-gwent.gov.uk

 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk