Digwyddiadau a Gwaithgareddau Cymraeg

Image

Dydd Gwyl Dewi
  Dathliad Dydd Gwyl Dewi Daeth dysgwyr o Flaenau Gwent a Sir Fynwy at ei gilydd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi yn ein bore coffi arbennig yng Nglyn Ebwy ar y 4ydd o Fawrth. Cowson ni fore gwych yng gnhwmni John Thomas, y telynor o Gil-y-Coed. Roedd y 35 o ddysgwyr o bob lefel wedi mwynhau gwrando a chanu gyda John a siaradodd am hanes y alawon a chwedlau'r Mabinogion hefyd mewn ffordd unigryw! Hefyd, roedd cyfle i'r dysgwyr gael profiad o ganu'r delyn ac roedd pawb wrth eu boddau yn canu ac yn bwyta pice ar y maen! Diolch i bawb am gefnogi'r digwyddiad hwn - llwyddiant mawr arall!